Bachgen 'bregus' wedi boddi ar ôl mynd ar goll ar wyliau - cwest

- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth bachgen 16 oed a aeth ar goll ar wyliau yng ngogledd Cymru foddi ar ôl mynd i'r môr yn Llandudno, mae cwest wedi clywed.
Diflannodd Athrun Lombardo o draeth Pen Morfa ym mis Mai 2025 tra ar wyliau gyda'i deulu.
Cafodd ei gorff ei ganfod yn y môr bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Daeth y crwner i'r casgliad mai anffawd oedd ei farwolaeth, ac nad oedd bwriad ganddo i niweidio ei hun.

Roedd gan Athrun, a oedd yn dod o Emersons Green ym Mryste, awtistiaeth a chyflyrau cymhleth gan gynnwys dyspracsia, ac fe gafodd ei ddisgrifio fel "unigolyn bregus".
Fe wnaeth yr heddlu, y gwasanaeth bad achub, Gwylwyr y Glannau a chŵn chwilio ac achub gynnal ymgyrch fawr i chwilio amdano ar ôl iddo fynd ar goll.
Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo siorts nofio yn unig.
Cafwyd hyd i'w gorff bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn y môr gan griw bad achub Conwy.
Roedd ar wyliau gyda'i rieni a'i frawd yn ymweld ag aelodau eraill o'i deulu.
Dod o hyd i gorff wrth chwilio am fachgen 16 oed
- Cyhoeddwyd14 Mai 2025
Chwilio am fachgen 'bregus' 16 oed sydd ar goll yn Llandudno
- Cyhoeddwyd11 Mai 2025
Clywodd y cwest yn llys y crwner Sir Ddinbych, Rhuthun gan ei fam, Catherine Lombardo, "nad oedd unrhyw arwydd" y byddai'n ei weld am y tro olaf y diwrnod hwnnw.
Dywedodd ei dad mewn datganiad ei fod wedi dweud wrth ei fab i gerdded tuag at y môr tra'r oedd yn rhoi eli haul ar ei fab iau, gan "nad oedd ganddo reswm i boeni".
Dywedodd hefyd ei fod yn caniatáu iddo grwydro o gwmpas "i hybu ei annibyniaeth".
Mewn datganiad, dywedodd Catherine Lombardo iddi gyrraedd y traeth tua dwy awr ar ôl i'w mab gael ei weld ddiwethaf, a bod ei phlentyn iau wedi dweud ei fod wedi gweld Athrun yn "rhedeg tuag at y môr", a oedd yn anarferol oherwydd nad oedd fel arfer yn rhedeg i unman.
Er iddo gael triniaeth am iselder yn y gorffennol, dywedodd ei fam fod ei hwyliau wedi gwella yn ystod y gwyliau.
Dywedodd y crwner John Gittins nad oedd tystiolaeth i awgrymu mai gweithred fwriadol oedd y digwyddiad, gan gofnodi marwolaeth trwy anffawd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.