12 o gŵn yn dathlu eu pen-blwydd cyntaf gyda'i gilydd mewn aduniad

- Cyhoeddwyd
Mae 12 o gŵn Labrador a ddaeth i'r byd mewn genedigaeth annisgwyl flwyddyn yn ôl wedi dod at ei gilydd eto i ddathlu eu pen-blwydd cyntaf.
Cafodd Tilly, Labrador pedair oed, aduniad gyda'i 12 o gŵn bach mewn parti ger Pontypridd, gyda'r cŵn a'u perchnogion yn teithio o bob rhan o dde Cymru, yn ogystal â Chippenham a Winchester yn Lloegr.
Roedd disgwyl i Tilly roi genedigaeth i hyd at chwe chi bach, ond yn y pendraw cafodd 14 eu geni dros gyfnod o 15 awr, er na wnaeth dau ohonyn nhw oroesi.
Mae perchnogion Tilly - Meirion a Tracey Thomas - wedi cadw mewn cysylltiad â pherchnogion y 12 ci arall ers y geni annisgwyl flwyddyn yn ôl.

Cafodd y cŵn eu geni dros gyfnod o 15 awr fis Awst y llynedd
Roedd Meirion a'i wraig, Tracey, ar wyliau pan ddechreuodd Tilly roi genedigaeth, gyda chwaer Meirion, Rhian Boxall, yn gofalu amdani.
Roedd disgwyl i Tilly roi genedigaeth ym mis Medi, ond daeth y cŵn bach tua wythnos yn gynnar.

Dywedodd Rhian fod y 12 ci bach wedi tyfu'n sylweddol ers iddyn nhw adael Tilly flwyddyn yn ôl
Dywedodd Rhian fod yr enedigaeth yn brofiad y bydd hi "byth yn ei anghofio", gyda'r 14 ci bach yn cael eu geni o tua 18:00 tan ar ôl 09:00 y bore canlynol.
"Roedd e'n sioc fawr," meddai Rhian, gan ychwanegu ei bod wedi mynd adref o'r gwaith cyn gynted â phosib ar ôl cael galwad gan ei gŵr bod yr enedigaeth wedi dechrau.

Roedd Rhian Boxall a'i gŵr Steve yn gofalu am Tilly pan roddodd hi enedigaeth yn annisgwyl
Dywedodd nad oedd hi'n "gw'bod be' i'w ddisgwyl" ac iddi dreulio amser yn ffonio'r milfeddyg am gyngor wrth i'r cŵn bach gyrraedd.
"Roedd e'n brofiad eitha' trist hefyd, roedd dau gi wedi marw, ond mae'r 12 sydd yma heddi' yn ffantastig," meddai.
Mae'r teulu wedi cadw mewn cysylltiad â pherchnogion y cŵn bach drwy grŵp WhatsApp, lle maen nhw'n rhannu lluniau ac yn gofyn am gyngor.

Teithiodd y 12 ci a'u perchnogion o bob rhan o dde Cymru a thu hwnt i'r aduniad
Mae rhai o'r cŵn hefyd wedi aros gyda theulu Meirion a Tracey pan fo'u perchnogion ar wyliau.
Dywedodd Meirion fod gweld y cŵn i gyd gyda'i gilydd ar eu pen-blwydd cyntaf yn "ffantastig".

Cafodd Tilly ei chysuro gan ei pherchennog, Meirion ar ôl rhoi genedigaeth i'w 14 ci bach
Dywedodd ei fod wedi cael gwybod ar ôl sgan fod Tilly yn disgwyl "pedwar neu bump babi", gyda'r milfeddyg yn rhagweld y bydden nhw'n cael eu geni ddechrau mis Medi.
Ond pan oedd Tilly yn nythu, cafodd Meirion alwad fideo gan ŵr Rhian, Steve, a sylweddolodd fod yr enedigaeth yn nes nag yr oedd wedi'i ddisgwyl.
"Roedd e tipyn bach yn upsetting oherwydd o'n i fod bod yna achos mae Tilly yn meddwl gymaint i fi," meddai.

Dywedodd Meirion bod Tilly yn "meddwl gymaint" iddo
Roedd Rhian a'i theulu wedi cytuno i ofalu am Tilly tra roedd Meirion a Tracey ar wyliau, gan nad oedd disgwyl iddi roi genedigaeth mor gynnar.
"Roedd e'n waith anodd ond roedd e'n bleserus hefyd i edrych ar ôl nhw i gyd," meddai Meirion.

Cafodd Tilly hefyd aduniad gyda Iolo, tad y 12 ci bach
Mae'r parti pen-blwydd wedi rhoi cyfle i'r 12 ci ddod at ei gilydd am y tro cyntaf ers iddyn nhw adael Tilly.
Roedd Tilly hefyd wedi cael ei hailuno â Iolo, tad y 12 ci bach.
Dywedodd Rhian: "Ma' nhw i gyd 'di tyfu gymaint ers i ni weld nhw.
"Ma' 'na rai ni'n gweld yn aml, ac ma' 'na rai fi ddim wedi gweld am bron blwyddyn, ac maen nhw wedi tyfu gymaint."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2025
