Oriel: Bywyd gwyllt Cwm Elan

Gwalch glasFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Gwalch glas

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi'n cofio'r fideo feiral ddechrau'r flwyddyn o'r llygoden yn tacluso'r sied?

Cafodd y fideo ei saethu gan ddyn o'r enw Rodney Holbrook sy'n ymddiddori mewn ffotograffiaeth natur. Yn wreiddiol o Fryste, symudodd Rodney i Lanfair-ym-Muallt yn 2020; lleoliad perffaith ar gyfer ei hobi ag yntau'n byw dafliad carreg o Gwm Elan, un o ardaloedd prydfertha'r wlad sy'n gartref i bob math o adar ac anifeiliaid gwyllt.

Dyma gipolwg ar rai o'i luniau trawiadol, a chlywed gan y dyn ei hun.

BarcudFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Barcud

"Prynais fy nghamera DSLR cynta tua 25 o flynyddoedd yn ôl, un o'r rhai Canon digidol cynhara'. Doedd gen i ddim math o wybodaeth am ffotograffiaeth ar y pryd.

"Fe wnaeth camerâu'r oes ddigidol agor byd newydd i mi, a dros amser mi wnes i ddysgu fy hun.

"Roedd gallu tynnu lluniau adar, anifeiliaid a thirweddau yn gymaint o bleser, dwi erioed wedi edrych yn ôl ac yn mwynhau'r hobi gymaint.

Titw Tomos LasFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Titw Tomos Las yn chwilio am ddiod

"Un o fy hoff luniau erioed.

Cwm ElanFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Cwm Elan

"Un o fy hoff fannau i ddogfennu yw Cwm Elan.

"Mae prydferthwch y golygfeydd yng Nghwm Elan, yr holl lefydd i fynd am dro, unigrwydd gogoneddus y bryniau a phan mae'r argau'n llifo drosodd - mae'n hudolus.

Glas y dorlanFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Glas y dorlan

Tynnu lluniauFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Rodney'n paratoi i dynnu llun o'i guddfan

"Tydw i ddim yn arbenigwr, ond mae gen i wybodaeth dda am fywyd gwyllt.

"Unwaith rydw i wedi dod o hyd i las y dorlan, tylluan neu lwynog - rydw i'n gosod fy nghuddfan ac yna'n aros.

DrudwyFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Drudwy

"Ar yr olwg gyntaf, mae'n hawdd meddwl taw aderyn lliw du yw'r drudwy, ond fel y gwelwch chi o'r llun yma mae 'na sglein i'w blu.

"Yn ystod y gaeaf mae ei farciau gwyn siap calon yn amlygu eu hunain.

DrudwyFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Drudwy gyda siapiau calon ar hyd ei frest

LlwynogodFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Pâr o lwynogod

"Cafodd y llun o'r ddau lwynog, y gwryw ar y chwith a'r fanw ar y dde, ei dynnu ym Mryste yn agos i dŷ un o fy mherthnasau ger coedwig.

MadarchFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Amanita'r pryfed yw'r enw ar y math yma o fadarch

Mwyalchen y mynyddFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Mwyalchen y mynydd, gyda'i goler wen nodweddiadol yn gwledda ar fwyar

Adar y toFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Adar y to mewn rhes ar gangen

NicoFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Nico yn y glaw

"Mae saethu yn y glaw yn rhoi awyrgylch arbennig i luniau, felly tydw i ddim yn meindio gormod os ydy hi'n glawio.

Robin gochFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Robin goch wedi dal ei ginio

Tylluan gorniogFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Tylluan gorniog yn arddangos lled ei hadenydd

"Fe gafodd y llun yma o'r dylluan gorniog ei dynnu yng nghanolfan dylluanod Caerloyw.

"Mae o'r unig lun sydd heb ei dynnu yn y gwyllt, sef fy hoff math o ffotograffiaeth.

CarwFfynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Carw prydferth ym Mryste