O Gemaes i'r gofod - profiad arallfydol i ddisgyblion ysgol ym Môn

Roedd Frank Rubio yn un o'r gofodwyr oedd yn sownd ar fwrdd yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) am dros flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion un ysgol gynradd ar Ynys Môn wedi cael profiad arallfydol ddydd Mercher, ar ôl cael cyfle i siarad ag un o ofodwyr NASA.
Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Cemaes y cyfle i sgwrsio â'r gofodwr Frank Rubio, fydd yn aelod o'r criw fydd yn cynnal taith orbit isel uwchben y Ddaear ar Artemis III yn 2027.
Roedd Mr Rubio hefyd yn un o'r gofodwyr oedd yn sownd ar fwrdd yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) am dros flwyddyn, yn dilyn nam ar y capsiwl gofod.
Daeth y cyfle i gysylltu â'r gofodwr yn dilyn prosiect gan y disgyblion i ddylunio bathodyn a anfonwyd i'r gofod, gyda'r ysgol yn dweud bod y plant wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at y sesiwn holi ac ateb i'w holi am ei brofiadau yn y gofod.

Dywedodd Ceri Hughes, athrawes yn Ysgol Cemaes, fod y disgyblion wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i siarad â gofodwr NASA
Beth felly yw'r cysylltiad rhwng Ysgol Gynradd Cemaes a'r gofod?
Nid dyma'r tro cyntaf i ddisgyblion yr ysgol gael blas ar fywyd fel gofodwr.
Yn gynharach eleni, fe gafodd y disgyblion gyfle i ddylunio bathodyn i fynd i fyny i'r gofod a'i weld mewn amodau heb ddisgyrchiant.
Dywedodd Ceri Hughes, athrawes yn yr ysgol, fod y syniad o gysylltu â gofodwr wedi codi yn ystod y prosiect hwnnw, cyn i'r ysgol gael cynnig sesiwn holi ac ateb.
"Mi oedd sôn adeg yna bod awydd i gysylltu â gofodwr, a gawson ni alwad wythnos diwethaf yn dweud bod Frank Rubio am gysylltu i gael sesiwn holi ac ateb gyda'r plant," meddai.

"Roeddwn i mewn sioc 'mod i wedi cael fy newis i ofyn cwestiwn," meddai Efan
Dywedodd Ms Hughes fod y disgyblion wedi bod yn edrych ymlaen at y cyfle i siarad â'r gofodwr.
"Mi oeddan nhw wedi gwirioni... methu disgwyl, ac wedi cyffroi yn lân!"
Cyn y sesiwn, roedd y disgyblion hefyd wedi bod yn ymchwilio er mwyn paratoi eu cwestiynau.
"Maen nhw wedi bod yn 'neud ychydig o waith ymchwil, yn edrych mewn i waith Frank Rubio ei hun cyn y sgwrs heddiw," meddai.
Mae'r prosiect yn rhan o gysylltiad ehangach diolch i gyn-ddisgybl, Dr Melanie Coathup, sy'n wyddonydd ac yn gweithio'n agos gyda gofodwyr.

Cafodd Rory a Sofia gyfle i holi Frank Rubio am dyfu planhigion a chadw'n ffit yn y gofod
Yn ôl Efan sy'n 7 oed: "Nes i ofyn am sut oedd o'n cyfathrebu 'efo'i deulu a ffrindiau pan oedd o'n y gofod.
"'Oedd o wedi deud fod o'n gallu siarad 'efo'i deulu bron iawn bob dydd ac mi oedd o'n gallu gwylio chwaraeon hefyd.
"Roeddwn i mewn sioc 'mod i wedi cael fy newis i ofyn cwestiwn."

Mae Sofia yn 10 oed ac mi gafodd hithau ofyn cwestiwn hefyd.
"Roeddwn i'n hapus ac mewn sioc. 'Nes i ddysgu bod Frank Rubio yn gallu tyfu planhigion yn y gofod a gallu adeiladu rocedi."
Dywedodd Rory, 9 oed, eu bod "wedi bod yn 'neud lluniau am y gofod yn y dosbarth".
"'Dan ni hefyd yn y dosbarth wedi bod yn dysgu sut mae gofodwyr yn brwsio eu dannedd, cysgu a bwyta yn y gofod.
"Nes i ofyn cwestiwn i Frank Rubio am gadw'n ffit yn y gofod a dysgu sut mae'n tyfu planhigion fel tomatos yn y gofod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd7 Ebrill

- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
