'Eicon' ac 'athrylith' rygbi'r gynghrair, Syr Billy Boston, wedi marw yn 92 oed

Syr Billy BostonFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r seren rygbi'r gynghrair o Gaerdydd, Syr Billy Boston, wedi marw yn 92 oed.

Cafodd yr asgellwr ei eni yn Nhrebiwt yn 1934. Chwaraeodd rygbi'r undeb dros glybiau ieuenctid amrywiol yng Nghaerdydd, ac yna i Gastell-nedd.

Ond er mwyn cael mwy o gyfleoedd fe symudodd i Wigan i chwarae rygbi'r gynghrair yn 1953.

Aeth ymlaen i sgorio'r nifer fwyaf o geisiau yn hanes cynghreiriau Lloegr, gan sgorio 478 cais mewn 488 gêm i Wigan.

Yn ystod ei gyfnod gyda'r tîm fe gyrhaeddon nhw rownd derfynol y Gwpan Her ar chwe achlysur.

Roedd Syr Billy Boston hefyd yn rhan o dîm Prydain a enillodd Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair yn 1960.

Llynedd daeth y chwaraewr cyntaf yn hanes rygbi'r gynghrair - sy'n dyddio yn ôl dros 130 o flynyddoedd - i gael ei urddo'n farchog, gan ei wneud yn Syr Billy Boston.

Billy BostonFfynhonnell y llun, Cyngor Wigan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cerflun ohono ei ddadorchuddio y tu allan i stadiwm Wigan yn 2016 ac un ym Mae Caerdydd yn 2023

Cafodd cerflun iddo ei ddadorchuddio y tu allan i stadiwm Wigan Warriors yn 2016, ac mae eisteddle o fewn y stadiwm wedi ei enwi ar ei ôl.

Yn 2023, fe gafodd cerflun ei ddadorchuddio ym Mae Caerdydd o dri o fawrion rygbi'r gynghrair - gyda'r asgellwr chwedlonol yn eu plith.

Daw'r newyddion ychydig wythnosau'n unig ar ôl marwolaeth ei wraig, Lady Joan.

Mewn datganiad dywedodd clwb Wigan Warriors eu bod yn galaru ar ôl colli "eicon".

Roedd yn arwr yn Wigan ond hefyd yn "arwr i bawb" medden nhw a "bydd ei esiampl ar ac oddi ar y cae yn parhau am byth".

"Cwsg mewn hedd, Syr Billy."

'Athrylith a wynebodd sawl rhwystr'

GanCennydd Davies
Chwaraeon BBC Cymru
Billy BostonFfynhonnell y llun, PA Media

Does dim dwywaith mai Syr Billy Boston yw un o'r sêr chwaraeon mwyaf sydd erioed wedi dod o Gymru - roedd yn athrylith ar gae rygbi.

Ond wrth i ni edrych yn ôl ar ei fywyd a chlywed yr holl deyrngedau mae 'na dristwch a siom o feddwl y bu'n rhaid iddo symud o'i famwlad er mwyn gwireddu ei botensial ar ôl i'w dalentau gael eu hanwybyddu gan ei dîm lleol a'r rheiny mewn pŵer yng ngêm yr undeb.

Mae'r ystadegau'n dweud y cyfan i danlinellu ei fedr ar y cae, ac felly mi oedd ei driniaeth a'r rhagfarn honedig yn ei erbyn fel dyn du yma yn ne Cymru yn achos cywilyddus ac yn atgof pwysig o'r her oedd yn wynebu chwaraewyr o gefndiroedd ethnig.

Yn hollol deilwng mae 'na gerflun bellach wedi'i ddadorchuddio yng Nghaerdydd i ddathlu cyfraniad un o feibion y ddinas.

Chwaraewr ddilynodd lwybr anghonfensiynol a goresgyn sawl rhwystr i gyrraedd y copa.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig