Mam o Gaerfyrddin yn sôn am y "braw" o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Olwen a'i mam, Dr Llinos Roberts
  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Gaerfyrddin wedi sôn am ei braw wrth ddarganfod fod lefelau siwgr yng ngwaed ei merch 14 oed yn beryglus o uchel.

Mewn cyfweliad ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru, esboniodd Dr Llinos Roberts mai lwc oedd hi fod ganddi declyn mesur lefelau siwgr yn y tŷ oherwydd ei gwaith fel meddyg teulu, a bod symptomau ei merch, Olwen, wedi amlygu eu hunain yn gyflym iawn.

Cafodd Olwen ei rhuthro i'r ysbyty wedi i'w mam sylwi ar y prif arwyddion, lle darganfuwyd ei bod yn dioddef o ddiabetes Math 1.

'Doeddwn i'm yn teimlo'n sâl'

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy'n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar newidiadau yn ystod gêm o griced.

"O'n i'n chwarae criced gyda Bronwydd," meddai Olwen. "O'n i'n teimlo'n fine, ond yng nghanol y gêm 'nes i ddechrau teimlo'n sychedig iawn a 'nes i ddechrau yfed lot o ddŵr.

"[Cyn cael diagnosis] doeddwn i'm yn teimlo'n sâl o gwbl. Ond oedd Mam wedi sylwi bo' fi'n yfed lot mwy. Doeddwn i'm yn gwybod os oedd e oherwydd y tywydd twym neu stress arholiadau."

Yn ôl Dr Llinos Roberts, mae'r symptomau'n gallu bod yn ddryslyd ac yn anodd i'w canfod ar y dechrau:

"O'n i wedi sylwi bo' ti'n sychedig ond oedd o dros y cyfnod poeth iawn felly o'n i wedi meddwl bod o oherwydd y tywydd falle neu bod straen cyfnod yr arholiadau yn arwain at newidiadau. Diolch byth bo' fi wedi meddwl mai diabetes oedd o."

Beth yw Diabetes Math 1?

Esboniodd Dr Llinos Roberts fod diabetes Math 1 a Math 2 yn gyflyrau gwbl wahanol, er bod y ddau yn effeithio ar y pancreas – yr organ sy'n cynhyrchu inswlin i reoli lefelau siwgr y corff.

Diabetes math 1 a 2

"Does dim triniaeth sy'n gallu cael gwared ar ddiabetes Math 1," meddai Dr Roberts. "Y driniaeth yw rhoi inswlin i'r corff er mwyn cyflawni swyddogaeth y pancreas a rheoli'r lefelau siwgr – rheoli'r cyflwr yn hytrach na gwellhad."

Nododd hefyd nad oes hanes o ddiabetes Math 1 yn y teulu, er bod ganddi hi ei hun gyflwr ar y thyroid sydd hefyd yn ymwneud â'r system imiwnedd.

Y symptomau i chwilio amdanynt

Yn ôl Dr Roberts, mae'n gyffredin i symptomau Math 1 amlygu eu hunain yn gyflym iawn. Y prif arwyddion yw:

  • Syched mawr ac yfed llawer mwy o hylif na'r arfer.

  • Pasio dŵr yn amlach na'r arfer.

  • Blinder gwael (er bod hyn yn gallu bod yn anodd ei adnabod mewn pobl yn eu harddegau).

  • Colli pwysau'n sydyn.

  • Symptomau eraill megis heintiau sydd ddim yn clirio neu newidiadau i'r golwg.

Er gwaetha'r braw cychwynnol, mae stori Olwen yn ein hatgoffa mor bwysig yw hi i fod yn wyliadwrus o'r arwyddion cynnar rheiny a sut y gall adnabod y symptomau mewn da bryd wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun, ychwanegodd Llinos.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig