'Prowd iawn' o enwebiad am anrhydedd y Brenin

Mae Megan Jones Roberts a Cefyn Burgess ymhlith y Cymry sydd wedi derbyn anrhydedd ar achlysur pen-blwydd y Brenin
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o Gymry ymhlith y cannoedd drwy'r Deyrnas Unedig sydd wedi derbyn anrhydedd ar achlysur pen-blwydd y Brenin.
O ran yr enwogion yn eu plith mae'r cerddor Cerys Matthews, y cyn-bêl-droediwr Cliff Jones a'r dylunydd ffasiwn David Emanuel.
Bydd Megan Jones Roberts, o Aberystwyth, yn derbyn MBE am ei gwasanaeth i'w chymuned.
Mae Ms Roberts yn uwch gynghorydd gyda'r elusen Community First ac wedi codi arian ar gyfer nifer o achosion gan gynnwys gofal canser a dementia.
"Dwi wedi codi £143,000 at achosion da hyd yma, ac felly gyda dim ond £7,000 i fynd tan i fi gyrraedd y £150,000," meddai.

"Dwi'n teimlo yn prowd iawn bod rhywun wedi mynd i'r trafferth i neud hyn," meddai Megan Jones Roberts
Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd: "Dwi'n cael triniaeth cancr ar hyn o bryd, ac wedi bod yn codi arian i ymchwil cancr a Bronglais hefyd, dwi hefyd yn gadeirydd papur bro, yn llywydd Merched y Wawr ac yn trefnu Steddfod Aberystwyth.
"Mae gen i lot o amser ar fy nwylo, er cael triniaeth chemotherapi, mae'n rhywbeth i gadw'r meddwl i fynd, dwi ddim isio eistedd mewn cornel yn deud 'w mae gen i cancr'.
"Dwi isio neud rhywbeth da i wella pethau i fi a'r holl bobl eraill sy'n mynd trwy bethau tebyg."
'Cael hwn nawr yn goron ar y cwbl'
Dywedodd Mrs Roberts ei bod wedi cael sioc pan dderbyniodd y llythyr am yr anrhydedd ym mis Ebrill.
"Dyma fi'n gweld ar y llythyr 'His Majesty's Service' a meddwl 'o ma nhw siŵr isio fi neud jury service' tan nes i agor e - o'n i'n eithaf shocked a ddim yn siŵr be' i ddeud, dwi ddim yn un sy'n brin o eiriau fel arfer ond nes i lefen," meddai.
Dyw Mrs Roberts ddim yn gwybod pwy roddodd ei henw ymlaen, meddai, ond nid dyma yw ei hanrhydedd cyntaf.
"Dwi wedi urddo i'r Orsedd 10 mlynedd yn ôl, wedi arwain parades Aber amser Dydd Gŵyl Dewi a cael hwn nawr yn goron ar y cwbl," meddai.
"Tydw i ddim yn un sy'n dilyn y frenhiniaeth, gan bod rhywun wedi a gan bod dau berson angen neud yr enwebiad, a does neb wedi dweud pwy, er mwyn diolch i pwy bynnag sy' wedi enwebu fi fwy na ochr y frenhiniaeth dwi'n ei dderbyn, dwi'n teimlo yn prowd iawn bod rhywun wedi mynd i'r trafferth i neud hyn.
"Mae cael triniaeth chemotherapi yn atal fi neud pethau, ond dwi dal yn gallu siarad ar y ffon a trefnu pethau - mae rhaid cadw'r feddwl i fynd."

Ymhlith y Cymry adnabyddus ar y rhestr mae Cerys Matthews a Cliff Jones
Dywedodd y gantores a'r cyflwynydd Cerys Matthews, sy'n derbyn MBE am ei gwasanaeth i gerddoriaeth, ei bod "mor hapus i dderbyn yr anrhydedd hon mewn teyrnged i Olive, fy mam-gu" nad oedd yn gallu dilyn ei breuddwydion yn y byd cerddoriaeth.
"Cymerodd ddwy genhedlaeth yn unig i weld newid," ychwanegodd.
"Roeddwn i'n ferch gafodd ei geni mewn cyfnod o heddwch ac mewn cyfnod lle'r oeddwn i'n rhydd i geisio cyflawni unrhyw beth roeddwn i am ei gyflawni.
"Rwy'n gobeithio y bydd y math hwn o gynnydd yn parhau.
"I'm ffrindiau sy'n caru cerddoriaeth, fy mhartner Steve, a gwrandawyr rheolaidd y rhaglenni radio BBC...diolch am eich haelioni a'ch doethineb; i'r athrawon cerddoriaeth yng Ngherddorfa Ieuenctid Gorllewin Morgannwg ac Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr, Abertawe; i Mam am fy magu'n ddwyieithog, ac i Dad am rannu pleserau diddiwedd darllen a dysgu gyda mi, diolch i chi - mae'r gydnabyddiaeth hon yn perthyn i chi hefyd."

"Dwi'n ddiolchgar tu hwnt i'r unigolion sydd wedi meddwl amdana i," meddai Cefyn Burgess
Yn derbyn medal y BEM mae Cefyn Burgess, 65, o Fethesda, a hynny am ei wasanaeth i gelf a chrefft.
Mae gwaith tecstiliau Mr Burgess yn adnabyddus ar draws y byd ac mae wedi gweithio yn yr UDA, Patagonia ac India.
Roedd yn Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 ac mae wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau rhyngwladol ac yng Nghymru.
"Mae o'n rhywbeth diarth i ddeud y gwir. Ti'm yn meddwl am y pethau 'ma a pan ddoeth o trwy'r post ti'n goro pendroni drosda fo," meddai.
"Dwi'n ddiolchgar tu hwnt i'r unigolion sydd wedi meddwl amdana i ac wedi rhoi fy enw ymlaen. Dwi'n ddiolchgar o'r fraint o gael y cydnabyddiaeth."
'Tu hwnt o ddiolchgar'
"Mae rhywun yn dal i brosesu fo, dwi'm yn gwybod yn emosiynol sut i ddelio efo fo achos yr ymateb cyntaf ydi 'pam fod hwn 'di dwad, o le mae o 'di dwad, pwy sy' 'di rhoid o, be' sy'n mynd ymlaen?'
"Mae o'n beth braf iawn cael gwybod bod rhywun yn meddwl bo' chdi'n deilwng, neu'r ymdrechion neu'r gwaith ti wedi'i wneud dros y blynyddoedd yn werth ei gydnabod a mae rhywun yn tu hwnt o ddiolchgar am y peth."
Ychwanegodd: "Dwi ddim yn Brydeiniwr, dwi ddim yn cefnogi'r Teulu Brenhinol chwaith felly dwi'n anwybyddu'r ochr yna yn fy mhen a just canolbwyntio mai mynd trwy'r llywodraeth mae o.
"Mae'r peth yn deimlad od iawn, ond cymryd o fel mae o, ar y wyneb fel mae o a'i dderbyn o a bod yn ddiolchgar tu hwnt o'r fraint fod rhywun yn meddwl bo chdi'n ddigon da."

Roedd clywed am yr anrhydedd yn "sioc a syndod" i Karl Lester
Bydd Karl Lester, 57, o Fetws-y-Coed, yn derbyn MBE am ei wasanaeth gyda Thîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.
Ers 2008, mae Mr Lester wedi cymryd rhan mewn 555 o weithrediadau gyda'r tîm, yn dilyn ei yrfa filwrol.
Roedd clywed y newyddion am yr anrhydedd yn "sioc ac yn syndod" iddo.
"Os mae'n helpu i godi proffil gwaith achub mynydd a'r hyn rydyn ni'n ei wneud fel gwirfoddolwyr - wel, mae 'na lawer mwy na be' mae pobl yn ei feddwl," meddai.
"Fysa dim ohonom ni yn gallu gwneud hyn heb gefnogaeth teulu a ffrindiau. Mae'n deimlad braf iawn bod rhywun yn meddwl digon ohona' i i fy enwebu. Mae'n syndod mawr."

Dywedodd David Emanuel nad oedd wedi dweud wrth ei blant cyn y cyhoeddiad
Un arall fydd yn derbyn MBE yw David Emanuel, 73, sy'n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, am ei waith gydag elusen ganser Macmillan.
Mae Mr Emanuel yn enwog am ei waith fel dylunydd ffasiwn - wedi gweithio gydag enwogion fel y diweddar Diana, Tywysoges Cymru, a'r gantores Madonna.
Dywedodd ei fod wedi cael diagnosis o ganser y brostad 12 mlynedd yn ôl a bod nyrs Macmillan wedi ei annog i siarad am ei brofiad.
"A dyna wnes i a chefais gymaint o ymatebion, roedd yn anhygoel," meddai.
Ers hynny mae Mr Emanuel wedi bod yn llysgennad i'r elusen.
"Mae wedi bod yn werth chweil, oherwydd mae'n gwneud i chi deimlo'n wych pan 'da chi'n siarad â phobl.
"Dwi'n lwcus, lwcus iawn, fy mod i wedi goroesi."
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen i sôn i'w blant am ei anrhydedd.
"Dwi'n eithaf da am gadw cyfrinachau," meddai.
"Wnes i lwyddo i gadw ffrog briodas Diana yn gyfrinach a dydw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth fy mhlant."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.