Teyrngedau lu i'r Tad Jason Jones - 'arwr cyfnod Covid'

Jason Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Dad Jason Jones a fu farw yr wythnos hon yn 56 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrnged i'r Tad Ganon Jason Jones, offeiriad yn Eglwys Gatholig y Galon Sanctaidd yn Nhreforys, wedi iddo farw yn sydyn yn 56 oed.

Fe ddaeth y Tad Jason, yn wreiddiol o Dremorfa yn Abertawe, i gryn amlygrwydd yn ystod cyfnod Covid.

Yn sgil ei waith fel caplan Ysbyty Treforys roedd galw mawr arno i roi'r ddefod olaf (last rites) wrth ochr gwely cleifion.

"Roedd e'n arwr yn ystod cyfnod Covid a galw mawr am ei wasanaeth," meddai'r Tad Rod fore Gwener wrth siarad â Cymru Fyw.

"Rwy'n gynorthwy-ydd iddo ac mae ei farwolaeth sydyn wedi llorio pawb yma.

"Ddydd Llun roedd e'n hapus yn dathlu ei ben-blwydd yn 56. Mi oedd e'n berson hynod o weithgar ac roedd gan y gynulleidfa niferus yma feddwl mawr ohono.

"Roedd e'n fentor i mi - yn dad yn y ffydd ond hefyd roedd e fel tad go iawn. I bob pwrpas dwi a'r gynulleidfa yma wedi colli tad. Mae'n galar yn fawr."

Y Tad Jason Jones yn ysotd ei gyfweliad a'r BBC yn Nhachwedd 2025
Disgrifiad o’r llun,

Y Tad Jason Jones yn ystod ei gyfweliad â'r BBC yn Nhachwedd 2025

Wrth i ail adroddiad Covid y DU gael ei gyhoeddi ddiwedd 2025 bu'r Tad Jason Jones yn cofio am y galw cyson a oedd arno fel caplan Ysbyty Treforys yn 2020.

"Roedd y switchboard yn ffonio fi trwy'r nos a thrwy'r dydd yn dweud bod angen offeiriad i ddod i ddarllen y last rites.

"Roeddwn i yn teimlo mor agos at bobl achos yr oeddwn i yn sefyll gyda nhw yn eu marwolaeth ac yn eu profiadau oedd mor anodd," meddai.

Ar y pryd, roedd cynnig cysur yn anodd oherwydd y cyfyngiadau - doedd pobl ddim yn cael dod yn agos at ei gilydd.

Fe fyddai felly yn cadw mewn cysylltiad yn gyson trwy anfon negeseuon testun a chael sgyrsiau dros y ffôn â theuluoedd cleifion oedd yn poeni neu'n galaru.

"Roedd yn anodd i ddechre i gysuro pobl," meddai ond yn ystod ei gyfweliad pwysleisiodd hefyd ei fod yn falch bod y pandemig wedi tynnu pentrefi a chymunedau at ei gilydd.

Bu'n siarad yn gyson ar y cyfryngau am ei waith yn ystod y pandemig ac ym Mawrth 2021 ef oedd yn gyfrifol am oedfa Radio Cymru.

Yn 2023 daeth i amlygrwydd wedi iddo roi cymorth i deuluoedd yn dilyn ffrwydrad angheuol yn Nhreforys.

Roedd galw mawr am wasanaeth y diweddar Dad Jason Jones yn ystod y pandemig
Disgrifiad o’r llun,

Roedd galw mawr am wasanaeth y diweddar Dad Jason Jones yn ystod y pandemig

Mae'r llu o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos pa mor boblogaidd oedd e, ychwanegodd y Tad Rod.

"Ei gynulleidfa oedd popeth a dyw hi ddim yn syndod bod y negeseuon yn cyfeirio at ei garedigrwydd, ei ymroddiad a'i gyfeillgarwch - yn aml mewn cyfnodau anodd."

"Roedd e'n fwy nag offeiriad, roedd e'n deulu a'i ffydd yn gwbl gadarn," medd un o'r negeseuon.

"Roedd wastad amser gydag e i siarad â fi - yn y gym neu ar y stryd," meddai neges arall.

Cyn iddo gael ei benodi i wasanaethu yn yr Eglwys Gatholig yn Nhreforys bu'n gwasanaethu yn ardaloedd Llanbedr Pont Steffan, Llandeilo, Llanymddyfri ac Aberteifi.

Mae nifer o negeseuon wedi cael eu hanfon o'r ardaloedd hynny hefyd - pob un yn cyfeirio at ei bersonoliaeth gynnes a hawddgar.

Mae'r Tad Ganon Jason Jones yn gadael ei fam Eryl a'i frawd Mark.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.