Therapydd harddwch wedi cael digon o gael ei thrin fel 'gweithiwr rhyw'

Mae Ffion Price yn ddweud bod hi'n dderbyn llawer o negeseuon amhriodol gan ddynion yn gofyn am luniau anweddus
- Cyhoeddwyd
Mae tylinwraig (masseuse) ifanc yn dweud ei bod wedi gorfod gosod larwm yn ei hystafell driniaeth ar ôl derbyn cymaint o negeseuon amhriodol gan ddynion.
Dywedodd Ffion Price, o Gilwern ger y Fenni ei bod wedi cael sawl profiad corfforol annymunol sydd wedi'i rhoi mewn "sefyllfa fregus iawn" er gwaethaf blynyddoedd o hyfforddiant proffesiynol.
Mae hi bellach wedi gosod camerâu CCTV y tu allan i'r adeilad a dyw hi ddim yn derbyn cleientiaid gwrywaidd yn y nos pan fydd yn gweithio ar ei phen ei hun.
Trwy rannu ei stori gobaith Ffion yw y bydd dynion yn deall y niwed y mae'r math yma o ymddygiad yn gallu ei achosi.
Mae hi hefyd am i golegau a sefydliadau gynnig gwell hyfforddiant ar sut i ymdopi â sefyllfaoedd o'r fath.

Ar ôl coleg cafodd Ffion swydd mewn sba a oedd yn delio â chwsmeriaid benywaidd yn unig
Mae Ffion yn galw ar golegau i gyflwyno modiwl diogelwch ychwanegol sy'n ymdrin â thechnegau tylino priodol ar gyfer cleientiaid gwrywaidd, yr arwyddion rhybudd i gadw llygad amdanynt a beth i'w wneud yn ystod sefyllfa anniogel.
"Mae'n frawychus," meddai Ffion.
"Dydych chi ddim yn gwybod pwy sy'n mynd i gerdded drwy'r drws, beth maen nhw'n ei ddisgwyl o'r driniaeth a pha mor bell maen nhw am fynd – na beth fyddech chi'n ei wneud yn y sefyllfa pe baen nhw'n mynd ymhellach ac felly mae'n sefyllfa anodd.
"Rwy' wedi gweithio mor galed i gyrraedd lle rydw i nawr, gan wneud cymaint o hyfforddiant mewn ffisioleg, anatomeg, a'r corff dynol yn gyffredinol.
"Felly mae cael fy nirmygu a'm hystyried bron fel gweithiwr rhyw yn ddigalon. Mae'n ofnadwy."

Mae gan Ffion flynyddoedd o hyfforddiant proffesiynol, gan gynnwys Diploma Lefel 2 a Lefel 3 mewn Therapi Harddwch o Goleg Gwent
Yn 2018 dechreuodd Ffion ei hyfforddiant yng Ngholeg Gwent gan gwblhau Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Therapi Harddwch cyn symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 gyda VTCT.
Yn ystod ei chyrsiau dysgodd am amrywiol driniaethau ac roedd hyfforddiant tylino yn fodiwl ar wahân.
Esboniodd Ffion ei bod wedi cael hyfforddiant i beidio â thylino cleient gwrywaidd uwchben y ben-glin ond na chafodd wybod beth i'w wneud pe bai dyn yn cael ei gyffroi neu'n ymddwyn yn amhriodol.
Ar ôl coleg cafodd Ffion swydd mewn sba ar gyfer cwsmeriaid benywaidd yn unig. Bu'n gweithio yno am bum mlynedd gan gwblhau cyrsiau ychwanegol amrywiol.
Dywedodd fod yr hyfforddiant wedi'i anelu'n bennaf at fenywod heb fawr o ffocws ar drin dynion.
Yn 2024 penderfynodd Ffion weithio ar ei phen ei hun gan drin merched a dynion.
"Bu'n rhaid i mi ddysgu'r ffordd galed sut i wneud pethau'n wahanol pan fydd cleient gwrywaidd yn dod i mewn," meddai Ffion.
Mae sefydliadau sy'n cynnig cyrsiau yn y maes yn dweud bod yr hyfforddiant yn delio ag arferion moesegol, diogelwch personol a ffiniau proffesiynol clir.

Yn ôl Ffion, mae'r rhyngrwyd a phornograffi wedi creu disgwyliadau afrealistig a "rhywiol" ynghylch tylino proffesiynol
Ers i Ffion lansio ei busnes, Serenity by Ffion, mae hi'n ddweud bod hi wedi derbyn negeseuon amhriodol gan ddynion bron bob pythefnos.
Mae rhai, meddai, wedi bod yn "eithaf cyfrwys" yn y ffordd maen nhw'n mynd ati, gan ofyn iddi dylino "ardaloedd penodol yn unig".
Ychydig fisoedd yn ôl cafodd brofiad gwael gyda chleient gwyrwaidd a berodd iddi deimlo'n "anghyfforddus iawn" yn ystod sesiwn tylino.
Fe wnaeth y dyn wrthod defnyddio tywel penodol, cafodd ei gyffroi'n rhywiol a dechreuodd afael yn ei llaw.
Wrth adael doedd y dyn, medd Ffion, ddim yn cywilyddio a cheisiodd drefnu apwyntiad arall.
Wrth edrych yn ôl, dywedodd Ffion y dylai hi wedi gofyn iddo adael gan bod peidio defnyddio'r tywel yn "rhybudd o'r cychwyn cyntaf".
Mae Ffion yn dweud bod pornograffi a'r rhyngrwyd wedi creu disgwyliadau afrealistig a rhywiol.
"Mae pobl yn ymwybodol y gallwch chi fynd i wledydd eraill a chael y mathau hyn o driniaethau," meddai.
"Ond mae'n wahanol iawn – dyna beth maen nhw'n ei gynnig yno. Ond pan ddewch chi yma, tylino proffesiynol ydyw."

Mae Ffion yn dweud na fydd hi'n derbyn cleientiaid gwrywaidd newydd pan fydd hi yn y salon ar ei phen ei hun
Mae Rhianne Evans, 46 oed o Ferthyr Tudful wedi gweithio yn y diwydiant harddwch ers 25 mlynedd.
Er nad yw hi wedi cael profiadau corfforol gwael mae hi wedi gorfod atgoffa cleientiaid gwrywaidd o'r "protocol", gyda rhai yn mentro gormod o ran gwisgo braidd dim dillad.
Yn ystod ei chyfnod yn gweithio fel rheolwr sba yn Nant Ddu Lodge dywedodd: "Roeddwn i yn derbyn lot o sylwadau a allai gael eu hystyried yn sylwadau achlysurol, ond serch hynny, rwy'n credu'n bersonol eu bod yn ddiangen.
"Mae tylino yn driniaeth ffisegol sy'n golygu cyswllt agos iawn a dim ond chi'ch dau sydd yn yr ystafell."

Mae gan Rhianne Evans, sy'n dod o Ferthyr Tudful, 25 mlynedd o brofiad ac mae hi'n cytuno bod angen mwy o hyfforddiant er mwyn diogelu therapyddion harddwch ifanc
Ar ôl dysgu therapi harddwch am 20 mlynedd mewn dau goleg, dywedodd Rhianne y "dylid cynnwys safeguarding fel model ar wahân mewn cyrsiau - yn enwedig o ran delio â chleientiaid ymosodol".
Ychwanegodd ei bod hi fel arfer yn dysgu diogelwch fel rhan o sesiwn theori oherwydd y profiadau personol roedd hi wedi eu cael.
Yn ôl Rhianne dylai therapyddion osgoi tylino stumog cleient gwrywaidd yn ystod tylino corff llawn ac yn lle hynny dylid treulio mwy o amser ar feysydd fel y cefn, y traed a'r pen.
Ymateb arweinwyr cyrsiau
Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Gwent ei bod yn "ddrwg gennym glywed am y profiadau a ddisgrifiwyd" a phwysleisiodd fod aflonyddu rhywiol yn "annerbyniol" a bod gan "bawb yn y diwydiant tylino a harddwch yr hawl i weithio heb deimlo'n anniogel ac yn ofnus".
"Mae ein darpariaeth Therapi Harddwch yn cael ei chyflwyno gan therapyddion harddwch sy'n gweithio yn y maes, ac mae'n cynnwys hyfforddiant ar arferion moesegol, diogelwch personol a ffiniau proffesiynol clir wrth weithio gyda chleientiaid o bob rhyw," ychwanegodd.
Dywedodd y llefarydd hefyd fod y coleg yn annog dysgwyr i "ymuno â chyrff proffesiynol sy'n rhoi arweiniad a chefnogaeth barhaus i'r diwydiant".
"Rydym yn croesawu adborth gan gyn-ddysgwyr ac yn adolygu ein cwricwlwm a'n hyfforddiant yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu arferion cyfredol y diwydiant a gofynion y cyrff dyfarnu," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran VTCT Skills, sy'n gosod y cwricwlwm craidd ar gyfer Diploma Harddwch Lefel 3, "nad oes lle" i aflonyddu rhywiol ac ymddygiad amhriodol yn y gweithle ac fe bwysleisiodd bwysigrwydd amgylcheddau dysgu a gweithio diogel a pharchus.
Er i VTCT Skills nodi na allai wneud sylw ar brofiad hyfforddiant Ffion, croesawodd drafodaeth ehangach yn y diwydiant ynghylch herio ymddygiad o'r fath.
Ychwanegodd ei fod yn bwysig bod llais y dioddefwyr yn cael ei glywed a'u bod yn cael pob cefnogaeth a'u cymryd o ddifrif.
Doedd City & Guilds, sy'n gosod y cwricwlwm craidd ar gyfer Diploma Harddwch Lefel 2, ddim am wneud sylw.
O therapydd harddwch i bysgotwraig: 'Dwi'n hoffi mynd yn fudr!'
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
Y salon sy'n rhoi hyder i gleifion canser
- Cyhoeddwyd31 Mai
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol (CNHC) na allai wneud sylw ar achos penodol ond pwysleisiodd na ddylai unrhyw ymarferydd deimlo'n "anniogel neu'n cael ei aflonyddu, a dylid rhoi gwybodaeath am ymddygiad troseddol o bosibl i'r heddlu".
Ychwanegodd bod unrhyw reoleiddio statudol yn benderfyniad llywodraethol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru "y dylai pawb deimlo'n ddiogel yn y gwaith ac yn eu bywyd bob dydd".
Er bod penderfyniadau ar gynnwys cyrsiau unigol yn fater i golegau, ychwanegodd llefarydd bod y llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r sector addysg uwch i "hyrwyddo arfer diogelu da".
"Ry'n hefyd yn buddsoddi mewn mesurau i atal trais a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr trwy wasanaethau arbenigol a llinell gymorth Byw Heb Ofn.
"Rydym hefyd yn rhoi sgiliau i blant a phobl ifanc i feithrin perthnasoedd iach a pharchus ac yn annog dynion a bechgyn i herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol," ychwanegodd.
Mae cais wedi cael ei wneud i Lywodraeth y DU am sylw.