Ffordd yng nghanol Abertawe ar gau ar ôl i dân achosi mwg du

Mwg du yn ardal Stryd Dyfatty, Abertawe brynhawn Sadwrn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gyngor i bobl osgoi'r ardal brynhawn Sadwrn wedi tân yn Stryd Dyfatty

  • Cyhoeddwyd

Mae ffordd yng nghanol Abertawe wedi cau wedi i dân mewn safle diwydiannol achosi cwmwl mawr o fwg du.

Fe apeliodd Heddlu De Cymru brynhawn Sadwrn ar bobl i osgoi ardal Styrd Dyfatty "a defnyddio llwybrau eraill lle bo modd".

Bu'n rhaid cau'r ffordd rhwng Stryd Dyfatty, Stryd Orchard a Heol Newhall, ac yn ôl y lly roedd "cryn fwg yn yr ardal, yn enwedig o gwmpas fflatiau Matthew Street".

Gan ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad yn dilyn y tân, fel ddywedodd Cyngor Abertawe nos Sadwrn bod y ffordd i mewn i'r ardal wedi ailagor yn llawn, ond mai un lôn yn unig oedd wedi ailagor ar y ffordd allan "tra bod perchennog yr adeilad yn asesu ei gyflwr".

Golyga hynny, ychwanegodd, bod y ffordd allan yn "annhebygol o fod ar agor ddydd Llun" a bod angen i yrwyr ystyried defnyddio ffyrdd eraill.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd AS Gorllewin Abertawe, Torsten Bell, ei fod yn "pryderu am yr hyn sy'n ymddangos fel tân yng nghanol y ddinas yn ardal City Church".

Ychwanegodd ei fod "mewn cysylltiad â'r gwasanaethau brys a'r cyngor ac y byddai'n parhau i ddilyn y sefyllfa'n agos."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.