Ian Watkins wedi cael ei 'fwlio am arian' yn y carchar - achos llys

Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Ian Watkins wedi derbyn llythyrau bygythiol cyn ei farwolaeth

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gall y cynnwys beri gofid

Clywodd llys fod y canwr roc a'r pedoffeil Ian Watkins wedi cael ei fwlio am arian ac wedi cael ei fygwth yn y carchar ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth.

Yn Llys y Goron Leeds, clywodd rheithgor bod Watkins wedi cael llythyrau yn mynnu bod angen iddo dalu £500 neu y byddai ei "ben yn cael ei hollti ar agor".

Bu farw cyn-brif leisydd y band Lostprophets, Ian Watkins o Bontypridd ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf yn ei gell yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref y llynedd.

Mae Rico Gedel, 25 oed, a Samuel Dodsworth, 44 oed, yn gwadu llofruddiaeth a chael arf yn eu meddiant yn y carchar.

Llys y Goron LeedsFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd yr achos llys yn erbyn Rico Gedel a Samuel Dodsworth yn Llys y Goron Leeds ddydd Iau

Roedd Watkins wedi'i garcharu am 29 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant - gan gynnwys ymgais i dreisio babi.

Dywedodd swyddog carchar, Simon Rothwell, fod Watkins yn cael ei ystyried fel person oedd yn "agored i niwed" oherwydd bod carcharorion eraill yn gwybod fod ganddo arian.

"Roedd yn garcharor proffil uchaf gan ei fod yn eithaf adnabyddus cyn iddo gael ei ddedfrydu."

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd y swyddog ei fod wedi gweithio yn adain Watkins yn y carchar am tua 10 mlynedd.

"Fe wnes i feithrin perthynas dda gyda Watkins – roedd yn ymddangos ei fod wedi meithrin ymddiriedaeth ynof.

"Mae Watkins wedi bod yn agored i niwed erioed, yn cael ei fwlio am arian, gan fod pobl yn ymwybodol o'i hanes ac yn gwybod bod ganddo arian."

Yn ôl y dystiolaeth, roedd Watkins wedi dweud wrtho ar 10 Hydref ei fod wedi derbyn dau lythyr "bygythiol iawn".

Dywedodd y swyddog iddo fynd i nôl y llythyrau cyn cynghori Watkins i aros yn ei gell dros y penwythnos.

Clywodd y llys fod Watkins wedi ateb drwy ddweud "na, rwy'n meddwl y bydda i'n iawn".

Dywedodd y swyddog, yn dilyn y sgwrs, iddo ddweud wrth y staff am ei "bryderon" ac i gadw golwg arno.

'Wedi ei orchuddio mewn gwaed'

Darllenodd yr erlynydd gynnwys un o'r llythyrau a oedd yn bygwth ymosod ar Watkins pe na bai'n talu £500 erbyn y dydd Sadwrn.

Roedd ail lythyr yn cynnwys bygythiadau tebyg ac yn ei alw'n "snitch".

Clywodd y llys hefyd dystiolaeth gan weithwyr oedd yn gweithio yn y carchar ar ddiwrnod y digwyddiad.

Dywedodd un iddo weld diferion o waed ar y llawr cyn gweld Watkins yn dal ei wddf ger drws ei gell.

Dywedodd ei fod yn gallu gweld gwaed ar ochr wyneb Watkins a'i fod yn ymddangos fel ei fod mewn sioc.

Dywedodd ail weithiwr fod Watkins "wedi ei orchuddio mewn gwaed o'i wddf i lawr".

Cafodd Watkins ei garcharu yn 2013 ar ôl cyfaddef cyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Mae'r achos yn parhau.