Arestio dau ar ôl canfod tyfiant canabis ym Mhlas Glynllifon

Dywedodd yr heddlu fis Ebrill eu bod wedi darganfod "sawl 'stafell efo tyfiant canabis ynddyn nhw" yn y plasty
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â chyffuriau ar ôl canfod canabis ym Mhlas Glynllifon ger Caernarfon.
Cafodd "tyfiant sylweddol" o'r cyffur ei ddarganfod "mewn 12 ystafell" yn y plasty ym mis Ebrill.
Mae'r adeilad rhestredig Gradd I wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod dyn 70 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ganiatáu'r defnydd o eiddo ar gyfer cyflenwi canabis.
Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae dyn 38 oed hefyd wedi ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi canabis, ac mae wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.