Gwasanaeth coffa sgandal gwaed yn 'dod â heddwch i deuluoedd'

Mae'r gwasanaeth yn "gydnabyddiaeth i'r gymuned fod yna bobl wedi marw a bod cam wedi bod yn ein herbyn ni", medd Rachel McGuinness
- Cyhoeddwyd
Dywed merch a gollodd ei thad yn sgil y sgandal gwaed bod y gwasanaeth coffa yn Llundain ddydd Mawrth "yn dod â heddwch" i' deuluoedd a gafodd eu heffeithio gan y sgandal gwaed wedi'i heintio.
Mae ystadegau yn dangos bod dros 30,000 wedi derbyn gwaed wedi'i heintio yn yr 1970au a'r 1980au a dros 3,000 wedi marw.
Bu farw tad Rachel McGuinness - Christopher John Thomas - yn 1990, ar ôl cael HIV o ganlyniad i dderbyn gwaed heintiedig.
Roedd e'n athro yng Nghaerdydd a chafodd driniaeth i ddechrau gan yr Athro Arthur Bloom yn y brifddinas ac yna gan ymgynghorydd ym Mangor wedi iddo ef a'i wraig symud i Ben Llŷn.
Dywedodd Rachel ar Dros Frecwast fod y gwasanaeth yn "gydnabyddiaeth i'r gymuned fod yna bobl wedi marw a bod cam wedi bod yn ein herbyn ni".
Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yng Nghadeirlan St Paul's yn Llundain.
Ym mis Mai 2024, nododd ymchwiliad cyhoeddus a barod am chwe blynedd "gatalog o fethiannau" gan ddod i'r casgliad y gellid bod wedi "osgoi'r sgandal i raddau helaeth".
Sgandal gwaed: 40 mlynedd o aros am atebion
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2024
Dywedodd Rachel fod cynnal y gwasanaeth yn rhywbeth pwysig iawn ac yn rhywbeth cadarnhaol.
Doedd Rachel ei hun ddim yn gallu mynd yno fe aeth ei chefnder i'r gwasanaeth i gynrychioli'r teulu.
"Dwi'n gobeithio y bydd o'n dod â rhywfaint o heddwch i'r bobl sy'n gallu mynd i'r gwasanaeth," meddai.
"Fydd o'n ddiwrnod i gofio am y bobl wnaeth farw a hefyd yn adlewyrchiad."
Gwasanaeth coffa sgandal gwaed yn 'dod â heddwch i deuluoedd'
"Ma' Mam yn 77 a ma' Dad wedi marw ers 35 o flynyddoedd," meddai Rachel, cyn mynd ymlaen i esbonio'r hyn a ddigwyddodd i'w thad.
"O'dd Dad yn hemoffiliac, felly 'nath o dderbyn gwaed heintiedig trwy'r driniaeth y g'nath o dderbyn yn yr 1970au."
Mae hemoffilia yn gyflwr prin sy'n effeithio ar y ffordd y mae gwaed yn ceulo (clot), sy'n golygu bod person gyda'r cyflwr yn gwaedu'n waeth na phobl eraill.
"Felly gath o ddiagnosis HIV positive yn 1984 ac wedyn bu farw yn 1990 o HIV ac AIDS."

Rachel McGuinness gydag ei thad (canol)
"Y gwaed heintiedig o'dd wedi achosi'r drafferth ac maen nhw bellach wedi derbyn cyfrifoldeb, sy'n golygu fod o wedi marw heb raid," meddai Rachel.
"Felly mae o'n drist iawn i ni fel teulu ac i deuluoedd eraill sydd wedi cael eu heffeithio hefyd."
Eglurodd Rachel fod ei thad yn credu ar y pryd fod y driniaeth i dderbyn gwaed yn un saff a bod diwrnod y seremoni dal yn un emosiynol iddyn nhw fel teulu.
"Ma'r ymchwiliad ei hun - da' chi'n ail-fyw'r galar mewn ffor', felly mae o wedi bod yn gyfnod eitha' anodd i ni.
"Dwi just yn gobeithio heddiw y bydden nhw'n cael amser i adlewyrchu a dod â'r bennod yna i ben," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.