Gwasanaeth tân yn gosod biniau nwyddau hylendid dynion am y tro cyntaf

Mae biniau hylendid ym mhencadlys y gwasanaeth tân yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Gwasanaeth tân ac achub y canolbarth a gorllewin yw'r un cyntaf yng Nghymru i osod biniau ar gyfer dynion sydd yn defnyddio nwyddau hylendid.
Mae disgwyl y bydd un mewn wyth o ddynion yn cael canser y prostad, ac mae hyd at 60% sydd yn cael triniaeth i dynnu'r prostad yn dioddef gyda phroblemau wrth reoli'r angen i basio dŵr.
Prin yw'r sefydliadau sydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer dynion sydd yn cael trafferthion tebyg, yn ôl ymgyrch Dispose with Dignity.
Mae gwasanaeth tân y canolbarth a'r gorllewin yn darparu biniau i waredu nwyddau hylendid mewn 22 o safleoedd erbyn hyn.

"Roedd yr awch i fynd i'r tŷ bach yn dod yn ofnadwy o sydyn. Roedd e'n anodd mynd i lefydd. Roedd e'n anodd cynllunio," meddai Simon Moffett
Cafodd Simon Moffett, 74 oed o Hwlffordd, broblemau wrth reoli'r awydd i basio dŵr rai blynyddoedd yn ôl.
Fe gafodd lawdriniaeth i gywiro trafferthion gyda'i brostad, ond mae'n dweud bod y cyfnod cyn y driniaeth wedi bod yn eithriadol o anodd.
"O'n i'n sylweddoli fy mod i yn gollwng. Roedd yr awch i fynd i'r tŷ bach yn dod yn ofnadwy o sydyn. Roedd e'n anodd mynd i lefydd. Roedd e'n anodd cynllunio," meddai.
"Ar ôl sawl wythnos, roeddwn i yn gwybod ble oedd bob tŷ bach cyhoeddus yn yr ardal.
"Ges i brofiad ofnadwy ar fws yng Nghaerdydd jyst yn eistedd ar y bws, ac yn sydyn sylweddoli fy mod i yn gollwng.
"A doedd dim byd i wneud, a gwlychu fy nhrowsus yn gyhoeddus, ac mae'n deimlad hollol uffernol. Sa'i eisiau'r teimlad yna eto.
"Mae'n newid eich bywyd achos chi ddim yn gallu mynd mas i'r ffilm neu'r theatr oherwydd mae ffilm yn rhy hir.
"Chi'n gwybod bod chi methu para mor hir â hynny. Mae'n broblem ofnadwy a dwi yn teimlo dros unrhyw un gyda'r broblem yma."
'Parch yn dod o gael y cyfleusterau yma'
Erbyn hyn, mae Simon yn gwirfoddoli gydag elusen Prostate Cymru.
Mae'n croesawu'r ffaith bod y gwasanaeth tân lleol wedi cyflwyno biniau ar gyfer nwyddau hylendid i ddynion
"Mae'r biniau yn syniad da ond maen nhw hefyd yn codi proffil y broblem. Mae pobl yn sylweddoli falle nad jyst fi yw e," meddai.
"Mae yna finiau fan hyn, mae yna bobl eraill yn dioddef. Mae yna ymwybyddiaeth yn dod o'r ffaith bod biniau o gwmpas.
"Mae yna barch yn dod o gael y cyfleusterau yma. Mae yn bwysig i ehangu'r wybodaeth.
"Mae pobl yn gwneud jôc am broblemau hen ddynion ond nid jôc yw e ond mae'n symptom, yn broblem, ac yn haeddu cael ei drwsio."

"Mae'n bwysig medru rhoi'r cyfleusterau yma i bobl i ddefnyddio er mwyn gwneud iddyn nhw deimlo yn gyfforddus yn y gwaith," meddai Huw Davies
Mae 81% o'r 1,420 o bobl sydd yn gweithio i wasanaeth tân ac achub y canolbarth a'r gorllewin yn ddynion.
Mae'r gwasanaeth hefyd wedi cael gwobr aur am hyrwyddo problemau wrth basio dŵr a chanser y prostad.
"Roedden ni yn gweithio gyda'r cyflenwyr sydd gyda ni nawr, a doedd y gost ddim yn ddifrifol," meddai Huw Davies, pennaeth ystadau'r gwasanaeth.
"Mae'n bwysig medru rhoi'r cyfleusterau yma i bobl i ddefnyddio er mwyn gwneud iddyn nhw deimlo yn gyfforddus yn y gwaith a bod e yna i helpu pobl.
"Dwi yn meddwl bod y ffaith bod e yna yn helpu nhw i wybod bod nhw'n medru bod yn gyfforddus.
"Does neb yn gweld o, ond mae o yna, a dyna sydd yn bwysig i ni."

"Mae'n rhywbeth bach mae busnesau neu sefydliadau yn medru gwneud i helpu eu gweithwyr neu eu cwsmeriaid," meddai Bethan Davies
Mae dros 2,000 o fusnesau a sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gynnig gwell cyfleusterau i ddynion, ac mae dros 21,000 o finiau wedi cael eu gosod ar gyfer nwyddau hylendid gan gwmni grŵp phs.
Mae'r biniau yn golygu y gall dynion gael gwared â nwyddau hylendid mewn ffordd lân a ddiffwdan.
"Mae'n rhywbeth bach mae busnesau neu sefydliadau yn medru gwneud i helpu eu gweithwyr neu eu cwsmeriaid, ac mae'n gwneud gwahaniaeth massive i ddynion sydd wedi cael canser y prostad," meddai Bethan Davies, s'n rhan o ymgyrch Dispose with Dignity, sydd yn ceisio ehangu defnydd o'r biniau.
"Does neb yn gwybod os wyt ti yn gwisgo pad i helpu gyda bladder leaks, ond os wyt ti yn mynd i'r tŷ bach a does dim bin yna i ti yn y cubicle a ti'n gorfod mynd â'r pad allan, yna dyna pryd mae pobl yn medru sylwi beth sydd gyda nhw yn eu llaw nhw, neu pan maen nhw yn mynd â bag gyda nhw i'r tŷ bach.
"Mae'r dynion yn mynd yn rili embarrassed ac maen nhw yn teimlo, 'dwi jyst ddim yn mynd i adael y tŷ', ac mae hynny yn cael effaith arall wedyn, ac mae hynny yn medru cael effaith negatif ar eich iechyd meddwl.
"Un o'r pethau ni eisiau gwneud yw cael mwy o finiau ar gyfer dynion, ond hefyd codi ymwybyddiaeth a chael gwared â'r stigma, a chael pawb i siarad amdano."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2023

- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024
