Cyhuddo dyn wedi ymosodiad honedig ar ferch 12 oed

Treherbert
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Dreherbert brynhawn Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 35 oed o Sir Gaerhirfryn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad ag achos honedig o herwgipio merch 12 oed yn Rhondda Cynon Taf.

Fe gafodd Samuel Hyde ei arestio yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad yn Nhreherbert brynhawn Mawrth.

Dywed Heddlu'r De ei fod wedi ei gyhuddo o gyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn ac ymosod ar ferch dan 13 oed drwy ei chyffwrdd.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau o dorri Gorchymyn Gwarchod Rhag Niwed Rhywiol a bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Mae disgwyl iddo fynd o flaen llys ddydd Iau.

Pynciau cysylltiedig