Bwriad i addasu awyrennau milwrol i frwydro tanau gwyllt

Mae'r A400 Atlas yn gallu cario hyd at 20,000 litr o ddŵr a sylweddau gwrth-dân
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r ffaith y bydd awyrennau a hofrenyddion milwrol y DU yn cael eu haddasu er mwyn helpu ymladd tanau gwyllt y dyfodol.
Dywedodd Prif Weinidog y DU y bydden nhw'n gallu helpu diffoddwyr tân ledled Prydain i fynd i'r afael a thanau "mewn mannau anghysbell, llethrau serth ac mewn ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd".
Pan roedd y tanau gwyllt ar eu gwaethaf dros yr haf roedd yna alwadau am gymorth gan awyrennau milwrol, ond dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ar y pryd nad oedd ganddyn nhw'r offer na'r hyfforddiant angenrheidiol.
Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd tanciau a bwcedi arbennig i ollwng dŵr a sylweddau gwrth-dân yn cael eu hychwanegu at awyrennau cludo A400M Atlas mawr a hofrenyddion Chinook.
'Yn debygol o fod yn wanwyn a haf anodd arall'
Mewn Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd a Gwytnwch ddydd Iau, fe gytunodd Llywodraeth Cymru i "weithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i ddarparu ateb cynhwysfawr i'r diffyg presennol o ran awyrennau a hofrenyddion i ymladd tanau o'r awyr".
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y buddsoddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod Rhun ap Iorwerth wedi mynychu cyfarfodydd rheoli argyfwng ym mis Awst ac wedi pwysleisio pwysigrwydd "cymorth arbenigol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Awyrlu".
"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwn cyn yr hyn sy'n debygol o fod yn wanwyn a haf anodd arall yn 2027," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Roedd Cwm Elan ymhlith y llefydd cyntaf yng Nghymru i ddioddef yn sgil tanau gwyllt eleni - cafodd y llun yma ei dynnu ym mis Ebrill
Ym mis Mehefin, fe gyhoeddodd Airbus Defence, sy'n cynhyrchu'r A400M Atlas, eu bod wedi cynnal profion llwyddiannus ar becyn ymladd tân.
Mae'r offer newydd, y mae modd ei osod a'i dynnu o'r awyren, yn gallu gollwng 20,000 litr o ddŵr a sylweddau gwrth-dân o ramp cefn yr awyren mewn eiliadau, a'i ail-lenwi ar y ddaear mewn tua 10 munud.
Gall hofrennydd Chinook Boeing CH-47 gludo rhwng 5,000 a 10,000 litr o ddŵr mewn bwced arbennig. Mae modd ail-lenwi'r bwcedi drwy hofran uwchben unrhyw gorff o ddŵr.
Mae awyrennau arbenigol i ymladd tanau wedi cael eu defnyddio ers degawdau yng ngogledd America ac yn gynyddol ar dir mawr Ewrop.
Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU hefyd yn cynnwys mesurau eraill ar gyfer Lloegr yn unig, gyda Llywodraeth Cymru'n dweud y byddan nhw'n trafod unrhyw gyllid ychwanegol posibl drwy "drefniadau Barnett" gyda Thrysorlys y DU.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd17 Awst

