Cymru'n rhoi crasfa i Dde Affrica yng Nghaerdydd

Cafodd Freya Bell (yn cario'r bêl) noson brysur yn cicio i Gymru nos Wener
- Cyhoeddwyd
Rhoddodd tîm rygbi merched Cymru grasfa i Dde Affrica yng Nghystadleuaeth y WXV nos Wener, gyda sgôr o 50-19 ar y chwiban olaf.
Cafwyd gwledd o geisiau, wrth i Courtney Keight, Sisilia Tuipulotu, Seren Lockwood, Maisie Davies, Kelsey Jones, Lisa Neumann ac Alex Callender groesi'r llinell wen dros Gymru.
Sgoriodd Tuipulotu ddwywaith ar y noson ac mi gafodd Freya Bell noson brysur yn cicio rhwng y pyst.
Felicia Jacobs, Maria Tshiremba ac Maceala Samboya wnaeth sgorio'r ceisiau i Dde Affrica, gyda Dolf yn cicio iddynt.
Roedd hi'n 38-5 i Gymru ar yr hanner ac yn edrych fel bod y gêm drosodd, ac er i Gymru sgorio cais arall yn syth ar ôl ailddechrau - mi ddeffrodd yr ymwelwyr am gyfnod a sgorio ambell gais eu hunain.
Ond byrhoedlog a rhy hwyr oedd y cyfnod hwnnw o lwyddiant i Dde Affrica, wrth i Gymru daro'n ôl i selio'r fuddugoliaeth ychydig cyn y terfyn.
Bydd y Cymry'n chwarae yn erbyn America nesaf yn yr un gystadleuaeth, yng Nghaerdydd ar 26 Medi am 15:00.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai

- Cyhoeddwyd27 Mehefin
