Achos marwolaeth dynes yn parhau'n ddirgelwch - cwest

Dywedodd teulu Sian Batchelor ei bod yn "berson prydferth, doniol a chariadus"
- Cyhoeddwyd
Mae patholegydd wedi methu â sefydlu hyd yma beth oedd achos marwolaeth dynes 32 oed a gafodd ei chanfod yn farw ar draeth yn Sir Benfro yn 2024.
Cafodd Sian Stephanie Batchelor ei darganfod ar draeth Pennar yn Noc Penfro ar 30 Ebrill 2024.
Mewn adolygiad cyn-cwest, dywedodd yr Uwch-grwner Gareth Lewis bod patholegydd wedi darparu tri adroddiad meddygol, ond wedi methu â chadarnhau sut y bu farw Ms Batchelor.
Yn ystod y gwrandawiad yn Hwlffordd, dywedodd Mr Lewis y byddai'n rhoi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys bod y llu bellach yn "berson sydd â diddordeb" yn ei ymchwiliad.
Dywedodd y byddai nodi hynny yn galluogi'r heddlu i ryddhau dogfennau ychwanegol allai fod yn berthnasol, ac i ddatrys unrhyw faterion y mae'r teulu yn ei gredu sydd ddim wedi cael digon o sylw hyd yma.
Clywodd y gwrandawiad bod gan ei theulu bryderon am ymchwiliad yr heddlu yn dilyn marwolaeth Ms Batchelor.
Dywedodd y crwner ei fod wedi rhoi ymrwymiad i'r teulu y byddai'n ceisio cwblhau'r cwest erbyn diwedd y flwyddyn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2024
