Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Jonathan Davies

Mae Jonathan Davies yn un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni
- Cyhoeddwyd
'Ail-gysylltu â'i wreiddiau' oedd rheswm Jonathan Davies dros ddechrau dysgu Cymraeg, a hynny tra'n byw yn Llundain.
Mae'n un o bedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle yr wythnos yma i gwrdd â'r ymgeiswyr.
Yn wreiddiol o Lwchwr ger Abertawe, mae Jonathan ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg.
Dyma'r eildro iddo gael ei enwebu am wobr Dysgwr y Flwyddyn, a dywedodd bod cyrraedd y rownd derfynol eleni yn 'boncyrs'.
Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Kierion Lloyd
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Ar ddechrau 2020 roedd Jonathan yn fyfyriwr yn Llundain yn astudio cerddoriaeth, pan benderfynodd bod yn rhaid iddo ddechrau dysgu Cymraeg.
"O'n i jest yn teimlo fel o'n i ddim yn really cysylltu â fy ngwreiddiau efallai.
"Odd cyn-gariad fi a fy ffrind gorau ar y pryd, o'n nhw'n gallu siarad Cymraeg.
"So, weithiau o'n i'n mynd mas, o'n nhw'n dechrau sgwrsio am bobl eraill, a wedyn o'n i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.
"So ie, nes i penderfynu bod rhaid dechrau dysgu."
Roedd ei deulu ar ochr ei dad yn siarad Cymraeg ddegawdau yn ôl, ond yn y 1960au penderfynwyd peidio â throsglwyddo'r iaith ymlaen i'w dad.
Mae Jonathan bellach yn cael ei gyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ymchwilio i addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, gan gyfweld â nifer o athrawon a phlant, ac arsylwi dosbarthiadau yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Mae hefyd wedi cynhyrchu podlediad ymchwil Cymraeg, podlediad i ddysgwyr, a chyda'i grŵp ysgrifennu fe sefydlodd wefan Daliwch Ati, dolen allanol i ddysgwyr.

Yn ôl ei diwtor Rhiannon Britton, gall nifer ddysgu o hyder Jonathan wrth fynd allan i ddefnyddio'i Gymraeg o ddydd i ddydd
Dywedodd ei diwtor, Rhiannon Britton ei bod wedi synnu pa mor dda oedd Cymraeg Jonathan pan ymunodd â'r dosbarth uwch ar ôl dim ond dwy flynedd o ddysgu.
"Roedd e'n gallu siarad yn hollol rhugl, yn hollol naturiol," meddai.
Gallai llawer ddysgu o hyder Jonathan yn ôl Rhiannon.
"Mae hynny yn rhywbeth 'se lot o ddysgwyr yn gallu cymryd o Jonathan - i fod yn hyderus, cerwch mas a defnyddio'r iaith sydd gyda chi, a dyna pam bod John wedi gwneud cymaint o gynnydd achos o'dd e'n barod i fynd mas a defnyddio'r iaith oedd gyda fe a gwella bob dydd a dweud y gwir."

Mae Jonathan Davies yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg
Yn ôl Jonathan roedd y '"darnau yn disgyn i'w lle" wrth iddo ddysgu Cymraeg, gan ei fod yn gyfarwydd â llawer o bethau o'i ddyddiau yn yr ysgol, ac yn gallu rhoi'r rheiny mewn trefn.
"Achos ei fod yn digwydd yn gyflym, o'n i'n gallu gweld y cynnydd, ac roedd hwnna'n rhoi cymhelliant i fi hefyd.
"Odd e'n broses neis."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd6 Awst 2025
