Dyn o Bwllheli wedi marw o 'anaf difrifol i'w ben' mewn gwrthdrawiad

Bu farw Elis Alan Ogilvy-Bardsley yn dilyn gwrthdrawiad ar y A499 rhwng Llanaelhaearn a'r Ffôr
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pwllheli fis Mawrth.
Bu farw Elis Alan Ogilvy-Bardsley, dyn 20 oed o ardal Morfa'r Garreg, Pwllheli yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A499 rhwng Llanaelhaearn a'r Ffôr, toc wedi 22:00 nos Sadwrn, 28 Mawrth.
Wrth agor y cwest i'w farwolaeth ddydd Gwener, cofnododd y crwner cynorthwyol achos dros dro i'w farwolaeth, fel "anaf difrifol i'w ben yn dilyn grym sylweddol". (severe blunt force head injury)
Estynnodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley ei chydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Elis ac mae'r cwest wedi ei ohirio.

Mae nifer wedi gadael blodau ar safle'r gwrthdrawiad
Cafodd Heddlu'r Gogledd a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r gwrthdrawiad yn ardal y Ffôr oedd yn cynnwys sawl cerbyd.
Fe gafodd pedwar ambiwlans eu hanfon i'r digwyddiad, ond er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw Elis yn y fan a'r lle.
Wrth agor y cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Gwener, dywedodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley fod Elis yn weithiwr mewn siop.
Yn ôl ei deulu, roedd hefyd wedi derbyn lle i astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Clywodd y cwest fod y gwasanaethau brys wedi derbyn sawl galwad ar noson y gwrthdrawiad yn dweud fod gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd wedi digwydd.
Roedd Mr Ogilvy-Bardsley yn gyrru car Ford Fiesta Du ar yr A499 i gyfeiriad Caernarfon, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad â char Audi oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.
Bu farw Elis yn y fan a'r lle am 22:45 y noson honno.
Teyrnged i ddyn ifanc 'gofalgar' o Bwllheli fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
Dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Pwllheli
- Cyhoeddwyd30 Mawrth
Yn dilyn archwiliad post-mortem, cofnododd patholegydd y Swyddfa Gartref Dr Brian Rogers farwolaeth dros dro fel "anaf difrifol i'w ben yn dilyn grym difrifol".
Mae ymchwiliad i amgylchiadau'r gwrthdrawiad yn parhau.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod Elis yn ddyn ifanc 'gofalgar'.
Ychwanegon nhw: "'Da ni wedi torri'n calonnau bod Elis wedi cael ei gymryd oddi wrthon ni mewn ffordd mor drychinebus.
"Mae ein bywydau ni fel teulu wedi cael eu newid am byth."
Dywedodd ei deulu y byddan nhw'n "colli ei wylio yn chwerthin, yn jocian a chwarae hefo'i frodyr a chwiorydd iau a oedd yn edrych i fyny ato fo ac wrth eu bodd hefo'r amser a dreulion nhw hefo'i gilydd yn cael hwyl".
Ychwanegon nhw fod Elis "yn goleuo pob ystafell" ac yn "tynnu pobl ato fo" ac mai ef oedd "bywyd ac enaid y parti bob amser".
"Roedd o'n mwynhau treulio amser hefo'i ffrindiau, yn teithio a chefnogi timau pêl-droed Cymru a Man United," meddai'r teulu.
Yn ôl ei deulu roedd Elis wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Bangor lle'r oedd yn "edrych ymlaen at astudio'r cyfryngau".
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.