'Rhaid dangos bod modd ffermio er lles natur a chael busnes proffidiol'

Rhys Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Evans yn dweud bod yna gymuned yn tyfu sy'n "optimistig" o ran dyfodol "ffermio adfywiol ac er lles natur"

  • Cyhoeddwyd

Mae angen "chwalu'r stigma" a dangos bod modd i ffermio er lles natur fynd law yn llaw â busnesau "gwydn" a "phroffidiol", yn ôl trefnydd digwyddiad newydd.

Bydd Cynefin - digwyddiad dau ddiwrnod sy'n cael ei redeg gan Rwydwaith Ffermio er Lles Natur (NFFN) Cymru - yn cael ei gynnal y penwythnos yma ger Aberhonddu yn ne Powys.

"Un o'r prif amcanion ydy dangos i bobl y gwaith da mae ffermwyr yn ei wneud ar gyfer natur a'r amgylchedd yng Nghymru," meddai rheolwr NFFN Cymru, Rhys Evans, sy'n ffermio yn Rhyd-y-main ger Dolgellau.

Mewn penwythnos llawn cyflwyniadau, trafodaethau, arddangosiadau a "dathlu", mae Mr Evans yn gobeithio nid yn unig addysgu a rhannu gwybodaeth am ddulliau ecogyfeillgar o ffermio - ond newid y naratif.

Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn ffermwyr eu hunain, meddai er mwyn "clywed, o lygad y ffynnon sut mae o'n elwa eu busnesau".

"Y mwyaf o ffermwyr sy'n dangos bod eu busnes yn fwy gwydn a fwy proffidiol oherwydd hyn [dulliau ecogyfeillgar] mae o'n cryfhau'r neges," meddai Mr Evans.

Drwy amrywiaeth o sgyrsiau, cyflwyniadau, teithiau a sesiynau ymarferol, maen nhw'n gobeithio trafod pynciau pwysig yn y maes.

Ymhlith y pynciau fydd yn cael sylw mae; ffyrdd o reoli da byw sy'n dda i'r amgylchedd, pwysigrwydd coed a gwrychoedd ar ffermydd, iechyd a lles anifeiliaid, a sut y gall ffermwyr helpu rhywogaethau eiconig sydd o dan fygythiad – fel y gylfinir – i ffynnu ar eu tir.

"Yn ogystal â dysgu a thrin a thrafod y pynciau yma efo pobl o wahanol gefndiroedd, mae yna gyfle i gael ychydig bach o hwyl hefyd," pwysleisiodd Mr Evans.

"Mae o'n bwysig iawn achos mae ffarmio'n gallu bod yn faes ynysig ac unig."

Bydd y cyflwynydd Alun Elidyr yn cynnal sesiwn gyda'r arbenigwr bwyd, Carwyn Graves, ddydd Sadwrn cyn i'r cantorion Gwilym Bowen Rhys a Lo-fi Jones berfformio gyda'r nos.

'Traddodiad yn cwrdd â syniadau arloesol'

Dywedodd pennaeth ymgysylltu â natur a datblygu yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, Carla Evans, eu bod "wrth ein bodd yn chwarae rhan mewn rhoi Cynefin ar waith".

"Ni'n gobeithio y bydd yn ddathliad o ffermio er lles natur, gan ddod â ffermwyr o bob cenhedlaeth at ei gilydd i rannu gwybodaeth a phrofiadau," meddai.

"Bydd creu gofod lle mae traddodiad yn cwrdd â syniadau arloesol yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng pobl, ffermio a natur.

"Gyda'n gilydd, gallwn ddathlu hanes cyfoethog ffermio a chroesawu'r arferion a fydd yn helpu i lunio dyfodol mwy gwydn sy'n garedig i natur."

Ond wrth symud ymlaen, "cyfuno'r buddion amgylcheddol efo'r buddion economaidd" sydd angen ei wneud, meddai Mr Evans.

"Mae yna gymuned optimistig iawn sy'n tyfu a thyfu pan mae'n dod i ffermio adfywiol ac er lles natur.

"Mae treulio amser gyda phobl sy'n rhannu'r un egni a brwdfrydedd yna yn rhywbeth gwerth chweil."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig