Cap ar bris ynni i godi i'w lefel uchaf ers tair blynedd fis Hydref

Fe allai aelwydydd heb gytundeb sefydlog weld cynnydd o oddeutu £60 y flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y cap ar bris ynni'n codi i'w lefel uchaf ers tair blynedd yn yr hydref.
Fe wnaeth y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, gadarnhau fore Mercher fod y cap yn cynyddu 4% ar 1 Hydref, a hynny yn bennaf oherwydd effaith y rhyfel yn Iran ar y marchnadoedd rhyngwladol.
Mae hynny'n gyfystyr â chynnydd o £60 y flwyddyn ar gyfartaledd yn achos aelwydydd heb gytundeb sefydlog gyda'u darparwr sy'n defnyddio nwy a thrydan.
Mae hynny'n golygu y bydd bil ynni blynyddol cartrefi ar gyfataledd yn £1,723.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod eu penderfyniad i hepgor TAW ar drydan yn golygu y bydd aelwydydd yn arbed £45 a'u bod yn parhau i geisio mynd i'r afael â chostau byw cynyddol.
Yn ôl y gwrthbleidiau yn San Steffan, dyw Llafur ddim yn gwneud digon i helpu'r rhai sydd angen cefnogaeth.
'Mynd i wneud gwahaniaeth'
Ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Dr Carol Bell - sy'n arbenigwr ar y diwydiant ynni - nad yw'r cynnydd diweddaraf yn syndod yn sgil y gwrthdaro yn Iran.
"Fi'n credu bydd prisiau trydan pobl yn fflat, ond bydd prisiau nwy yn mynd lan ryw 8%, felly mae dod â'r TAW i ffwrdd o bris trydan yn mynd i wneud gwahaniaeth i bobl sy'n dibynnu ar drydan," meddai.
"Yr hyn mae'r llywodraeth eisiau 'neud yn y pen draw, a'r hyn fydd rhaid iddyn nhw ei wneud yn y pendraw, yw defnyddio llai o nwy.
"Mae'r cynnydd mewn ynni adnewyddol ym Mhrydain yn beth pwysig, ond mae hynny yn dod efo cost - ac mae gweddill y pris yn adlewyrchu'r gost o symud y system o losgi nwy i ddyfodol mwy glân sy'n llai dibynnol ar y farchnad ryngwladol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.