Cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan sawl cerbyd a char heddlu

A40
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth cerddwr yn dilyn gwrthdrawiad rhwng chwe cherbyd yng Nghaerfyrddin.

Roedd yr adroddiadau cyntaf a gafodd yr heddlu yn lleisio pryderon am ddiogelwch cerddwr ar yr A40 - yna daeth adroddiadau bod cerbydau wedi bod mewn gwrthdrawiad â'r unigolyn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 21:50 nos Fawrth rhwng cylchfan PC World a chylchfan Abergwili.

Yn ôl adroddiadau bu un o gerbydau'r heddlu mewn gwrthdrawiad â'r cerddwr hefyd - roedd y car heddlu yn digwydd bod yn patrolio'r ardal ar y pryd ac fe wrthdarodd yn erbyn y cerddwr cyn i blismyn a oedd yn ymateb i'r digwyddiad gyrraedd.

Bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r mater a does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r achos hefyd wedi cael ei gyfeirio at yr IOPC sef Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

A40

Nos Fercher fe wnaeth y ffordd ailagor ar ôl bod ar gau i'r ddau gyfeiriad.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig