Syr Roger Jones - 'un o fawrion byd busnes Cymru' - wedi marw

Treuliodd Syr Roger Jones gyfnod hefyd yn gadeirydd elusen Plant Mewn Angen
- Cyhoeddwyd
Mae'r gŵr busnes a chyn-gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru, Syr Roger Jones wedi marw yn 83 oed.
Wedi ei fagu yng Ngharrog ger Corwen fe sefydlydd un o gwmnïau fferyllol mwyaf Cymru, Penn Pharmaceuticals yn y 1980au.
Bu'n aelod o Fwrdd Llywodraethwyr y BBC rhwng 1997 a 2002, yn gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru rhwng 2002 a 2006 yn ogystal â chyfnodau yn gweithio gyda sawl corff cyhoeddus arall gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Gardd Fotaneg Cymru a YMCA Cymru.
Roedd yn un o ymddiriedolwyr Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, a chyda'i gartref ger Aberhonddu roedd ar fwrdd Gŵyl Jazz Aberhonddu, ac yn llywodraethwr yng Ngholeg Crist yn y dref.
Derbyniodd OBE yn 1996 cyn cael ei urddo yn farchog yn 2005 am ei "wasanaeth i fusnes a hyfforddiant yng Nghymru".
Dywedodd ZooBiotic Ltd, cwmni a gafodd ei sefydlu gan Syr Roger, ei fod yn "un o fawrion byd busnes Cymru ac yn gefnogwr brwd o'r gwyddorau bywyd".
"Roedd hefyd yn fentor, yn ŵr bonheddig ac yn ffrind arbennig i nifer," meddai'r datganiad.
Cymeriad oedd yn 'llenwi bob ystafell'
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr Athro Dylan Jones Evans fod Roger Jones yn "arwr mewn sawl ffordd".
"O fod yn ŵr busnes llwyddiannus i fod yn gadeirydd y WDA ac yn un o lywodraethwyr y BBC, roedd Roger yn gymeriad mawr oedd yn llenwi bob ystafell yr oedd ynddi," meddai.
"Ro'n i'n siarad... am 'Rog' yn gynharach ac roedd gymaint o straeon i'w rhannu - oedd fel arfer yn ymwneud a photel neu ddwy o win a llwyth o chwerthin.
"Roedd wastad yn gefnogol iawn ohona i, a byddai wastad yn barod i siarad gyda myfyrwyr.
"Roedd yn ddyn da a bydd colled enfawr ar ei ôl."
'Uchelgeisiol dros Gymru'
Mewn teyrnged gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, dywedodd y Llywydd, yr Athro Elan Closs Stephens, fod Syr Roger yn "ymchwilydd disglair, yn flaengar ym myd busnes, ac yn arweinydd amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru".
Dywedodd fod ei holl waith yn cael ei nodweddu gan "greadigrwydd, egni a chwilfrydedd", a'i fod yn fwy na dim yn "uchelgeisiol dros Gymru".
Dywedodd yr Athro Closs Stephens fod hynny wedi'i ddangos yn ei arweinyddiaeth o Awdurdod Datblygu Cymru a'r BBC, yn ogystal â'i uchelgais i weld Cymru'n arwain y ffordd ym maes biotherapi newydd.
Ychwanegodd fod ei uchelgais dros Gymru "wrth wraidd sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru a bod yn Gymrawd Cychwynnol", gan ddweud ei fod am weld Cymru'n cael academi debyg i'r Gymdeithas Frenhinol "i ddatblygu syniadau a rhannu dysg".
"Rydym yn cofio amdano ac yn anrhydeddu ei gyfraniad," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020