'Dros 1,300 heb dderbyn pleidlais bost mewn pryd' - Cyngor Caerdydd

Bydd rhai sy'n methu dychwelyd i Gaerdydd mewn pryd ddim yn gallu pleidleisio, ar ôl methu derbyn eu pleidlais bost
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau bod dros 1,300 o bobl heb dderbyn eu pecynnau pleidleisio post mewn da bryd ar gyfer Etholiad y Senedd ddydd Iau.
Mae'r Post Brenhinol yn dweud na chafodd y pleidleisiau post coll eu hargraffu, ac nad oedden nhw wedi eu derbyn er mwyn eu dosbarthu.
Yn ôl y cyngor, eu "blaenoriaeth ar unwaith" yw sicrhau y gall pleidleiswyr yn etholaethau Caerdydd Ffynnon Taf a Caerdydd Penarth "ddefnyddio eu hawl ddemocrataidd".
Mae pecynnau newydd wedi'u dosbarthu â llaw, yn ôl y cyngor, gyda nifer fach wedi'u hanfon drwy'r post gyda blaenoriaeth lle bo'n briodol.

Dywedodd y canwr Gruff Rhys bod y sefyllfa'n "ffiasgo", wrth iddo fethu â chael ei bleidlais bost mewn pryd cyn mynd ar daith gyda'r Super Furry Animals
Ond mi fydd hi'n rhy hwyr i rai yn y brifddinas, fel prif leisydd Super Furry Animals, Gruff Rhys.
Disgrifiodd y sefyllfa fel "ffiasgo", gan ddweud ei fod yn "siomedig" na fyddai'n debygol o dderbyn ei bleidlais bost mewn pryd cyn mynd ar daith gyda'r band.
Yn flaenorol, fe ddywedodd y cyngor eu bod wedi "derbyn sicrwydd gan ein darparwr argraffu, Civica, bod y data perthnasol wedi'i dderbyn yn gywir gan y cyngor a bod y pecynnau wedi'u hargraffu a'u hanfon at y Post Brenhinol".
Ond dywedodd y Post Brenhinol eu bod nhw, "mewn ymateb i gwynion gan etholwyr yn ymwneud â phecynnau post heb eu danfon, wedi cael gwybod gan y cyngor nad oedd y papurau pleidleisio dan sylw wedi'u hargraffu, ac oherwydd hynny, na chawson nhw eu trosglwyddo i'r Post Brenhinol i'w danfon".
"Mae pob pecyn pleidleisio a dderbyniwyd gan y Post Brenhinol yn yr ardal wedi'i brosesu a'i ddanfon fel y disgwyliwyd," meddai.
Nifer o bapurau heb eu hargraffu
Mae'r cyngor bellach wedi cadarnhau bod yna nifer o becynnau pleidleisio heb gael eu hargraffu.
Dywedodd llefarydd eu bod, ar ôl trafodaethau pellach gyda'u hargraffwyr, "wedi cael cadarnhad nad oedd y pecynnau pleidleisio gafodd eu trefnu ar gyfer yr wythnos diwethaf wedi cael eu hargraffu, er bod y cyngor wedi darparu'r wybodaeth".
"Yn wreiddiol, fe wnaeth hyn arwain at 1,388 o becynnau ddim yn cael eu danfon i etholwyr yng Nghaerdydd, yn etholaethau Caerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth."

Dywedodd y Post Brenhinol nad oedden nhw wedi derbyn y pecynnau pleidleisio i'w dosbarthu
Gall pleidleiswyr sydd wedi'u heffeithio ddychwelyd eu pecyn pleidleisio post, wedi'i gwblhau, i unrhyw orsaf bleidleisio neu i Neuadd y Sir cyn 22:00 nos Iau.
Ond bydd dim modd i bleidleiswyr sy'n methu â dychwelyd i Gaerdydd tan ar ôl yr etholiad i fwrw eu pleidlais, gyda'r cyngor yn cadarnhau "yn anffodus, i'r rhai sydd bellach i ffwrdd o gartref, nad oes darpariaeth ar hyn o bryd i ganslo'r bleidlais bost bresennol er mwyn gwneud cais am ddirprwy brys".
Dyw hi ddim yn glir faint o bobl sydd wedi methu â phleidleisio yn sgil y problemau yma, ond gallai nifer fach o bleidleisiau fod yn bwysig pan fydd canlyniadau'r etholiad yn cael eu cyfrif ddydd Gwener.
'Ddim yn broblem ehangach'
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol wrth y BBC nad oedden nhw'n credu bod problem ehangach yng Nghymru gyda phleidleisiau post, ac y dylai pleidleiswyr sydd wedi'u heffeithio yng Nghaerdydd gysylltu â'r cyngor.
Yn dilyn yr etholiad bydd y comisiwn yn "paratoi adroddiad statudol ar bob agwedd o etholiadau'r Senedd, gan gynnwys monitro perfformiad y Swyddog Canlyniadau a gwneud unrhyw argymhellion angenrheidiol i Lywodraeth Cymru".
"Mae gweinyddu pleidleisio drwy'r post yn un o'r meysydd y byddwn yn eu hystyried, a byddwn yn ceisio barn gan bawb sy'n gysylltiedig fel rhan o'r broses hon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.