Tymor newydd yr Adran Premier - pwy all stopio Wrecsam?

Wrecsam ydi pencampwyr presennol yr Adran Premier
- Cyhoeddwyd
Mae tymor newydd yr Adran Premier yn cychwyn ddydd Sul gyda Wrecsam yn gobeithio cael eu coroni'n bencampwyr am yr eildro yn olynol.
Mi oedd tymor 2025-26 yn un bythgofiadwy i'r Dreigiau, wnaeth ennill y gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes ac ennill Tlws Adran ar ôl curo Caerdydd ar giciau o'r smotyn yn y ffeinal.
Aethon nhw yn eu blaenau i chwarae yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr gan ennill o 4-2 yn erbyn FC Pyunik o Armenia. Dyna'r tro cyntaf mewn saith tymor i glwb o Gymru ennill gêm Ewropeaidd.
Er y siom o orffen yn ail yn y gynghrair fe lwyddodd Caerdydd i ennill Cwpan Cymru, gan drechu eu gelynion pennaf Abertawe yn y ffeinal ar giciau o'r smotyn.

Fiona Barry, Kerry Walklett a Laura Curnock gyda Chwpan Cymru
Mi gafodd yr Adran Premier - sef prif gynghrair merched Cymru - ei sefydlu yn 2009. Uwch Gynghrair Merched Cymru oedd yr enw gwreiddiol.
Abertawe oedd y pencampwyr cyntaf 'nôl yn nhymor 2009-10. Mae'r Elyrch wedi cael eu coroni'n bencampwyr ar chwe achlysur, ond dydyn nhw heb ennill y gynghrair bellach ers 2022.
Fe gafodd y gynghrair ei hail-lansio yn 2021, gan gyflwyno'r enw Adran Premier.
Ar y pryd, hon oedd y drydedd gynghrair yn Ewrop i gael gwared ar y gair 'merched' o'r teitl er mwyn normaleiddio a rhoi statws i bêl-droed merched.
"Tydi'r gair 'dynion' ddim yn nheitl y Cymru Premier, felly does dim angen y gair 'merched' yn yr Adran Premier", meddai Pennaeth Pêl-droed Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Lowri Roberts yn 2021.
Mae 'na wyth clwb yn cystadlu yn y gynghrair, gydag un tîm yn syrthio allan ohoni ar ddiwedd y tymor.

Daeth yr enw Adran Premier ar y gynghrair yn 2021
Caerdydd ydi'r tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes diweddar y gynghrair, ond gyda chymorth Ryan Reynolds a Rob Mac fe lwyddodd Wrecsam i orffen uwch eu pennau yn y tabl y tymor diwethaf.
Mae'r diddordeb mae perchnogion Wrecsam wedi ei ddangos yn nhîm y merched yn sicr wedi codi proffil y gynghrair, gan eu bod yn aml yn rhoi canlyniadau'r tîm ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Ers ennill dyrchafiad i'r Adran Premier yn 2023 maen nhw wedi mynd o nerth i nerth.
Wrecsam oedd y clwb cyntaf yn y gynghrair i roi cytundebau lled-broffesiynol i'w chwaraewyr, a mi gafodd yr uchelgais yna ei wobrwyo wrth ennill y bencampwriaeth y tymor diwethaf.

Y tro diwethaf i Abertawe ennill yr Adran Premier oedd yn 2022
Mae gan Wrecsam reolwr hynod o brofiadol wrth y llyw yn Jenny Sugarman, ac mae'n ymddangos eu bod nhw wedi cryfhau'r garfan yn effeithiol dros yr haf.
Ymysg y chwaraewr sydd wedi ymuno â'r Dreigiau mae Natasha Thomas, ymosodwr rhyngwladol Jamaica a phrif sgoriwr yn hanes tîm merched Ipswich Town.
Mae hi'n gwbl amlwg eu bod nhw'n benderfynol iawn o ddal eu gafael ar dlws yr Adran Premier.
Ar ôl y siom o orffen yn ail y tymor diwethaf mae Iain Darbyshire wedi gadael ei swydd fel rheolwr Caerdydd, gyda'r is-reolwr Noah Bushby yn camu i fyny i gymryd yr awenau.
Fel Wrecsam, mae'r Adar Gleision hefyd wedi cryfhau eu carfan. Yr ymosodwr Haile Richards ydi, o bosib, y chwaraewr mwyaf cyffrous maen nhw wedi arwyddo yn dilyn cyfnodau yn chwarae'n Sbaen a Phortiwgal.
Ar ôl pedwar tymor heb ennill tlws mi fydd Abertawe yn gobeithio am well y tymor yma, tra bod Y Seintiau Newydd wedi arwyddo Abbie Iddenden and Hannah Snape o Wrecsam.
Mae MET Caerdydd yn ôl yn y brif haen ar ôl ennill dyrchafiad, tra bod Llansawel wedi penodi Mark Murison yn rheolwr newydd ar ôl gorffen yn bumed y tymor diwethaf.
James Fishlock fydd yng ngofal Y Barri unwaith eto, tra y bydd Aberystwyth yn anelu i orffen yn uwch ar ôl gorffen yn seithfed y ddau dymor diwethaf.
Gemau cyntaf y tymor
Dydd Sul, 6 Medi
Y Barri v Llansawel (14:00)
MET Caerdydd v Y Seintiau Newydd (14:00)
Wrecsam v Aberystwyth (14:00)
Abertawe v Caerdydd (17:15)