Mellten yn taro to yn Sir Gaerfyrddin gan achosi tân

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r digwyddiad nos Fercher
- Cyhoeddwyd
Mae mellten wedi taro to eiddo yn Sir Gaerfyrddin gan achosi tân a difrod mawr, yn dilyn cyfnod o dywydd poeth.
Cafodd sawl criw o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r digwyddiad yng Nglanaman nos Fercher.
Roedd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys, y gwasanaeth ambiwlans a'r Grid Cenedlaethol hefyd yn bresennol.
Yn ôl y gwasanaeth tân fe darodd mellten do yr eiddo, gan gynnau tân wnaeth achosi difrod sylweddol, cyn lledu i eiddo arall.
Ychwanegon nhw na chafodd unrhyw un eu hanafu, a bod pawb yn ddiogel.
Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 02:45 fore Iau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.