'Ni wedi gorfod talu ein morgais ddwywaith – mae'n ofnadwy'

Cafodd Gabriella Smith wybod gan y cyfreithwyr eu bod wedi "cwblhau" y broses o ailforgeisio ei thŷ, dim ond iddi wedyn dderbyn cais am daliad gan Halifax a Nationwide ddyddiau'n ddiweddarach
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl sydd wedi bod yn gorfod talu morgais misol eu tŷ ddwywaith, ar ôl i'r cyfreithwyr roedden nhw'n eu defnyddio fynd i'r wal heb rybudd, yn dweud bod y pwysau ar eu teulu wedi bod yn "ofnadwy".
Cafodd Gabriella a Kurtiss Smith wybod gan eu cyfreithwyr ym mis Ionawr fod y morgais ar eu tŷ yn Y Barri, Bro Morgannwg wedi symud yn llwyddiannus o Halifax i Nationwide - ond yna fe gawson nhw geisiadau am daliad gan y ddau fanc.
Ers hynny maen nhw wedi gorfod benthyg arian gan deulu a ffrindiau i fforddio'r taliadau misol o £2,000, wedi i gwmni PM Property Law gau yn ddirybudd.
Ond ddiwrnod wedi i BBC Cymru gysylltu gyda'r banciau am sylw, fe ddywedodd Halifax eu bod wedi "datrys" y sefyllfa ac "ad-dalu'r taliadau ychwanegol".
Roedd Gabriella, 30, a'i gŵr Kurtiss ymhlith cannoedd o gwsmeriaid gafodd eu heffeithio yn dilyn cau PM Law Group - rhiant gwmni y cyfreithwyr roedden nhw'n ei ddefnyddio i ailforgeisio.
Mae'r cwmni cyfreithiol nawr yn destun ymchwiliad gan Heddlu Sir De Efrog a'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, sy'n dweud eu bod yn ymchwilio i "amheuaeth o dwyll soffistigedig".
'Pam maen nhw wedi gwneud hyn?'
Fe wnaeth y cwpl brynu eu cartref cyntaf gyda'i gilydd bum mlynedd yn ôl, gyda golygfa o draeth Ynys y Barri.
Fe wnaethon nhw ailforgeisio'n ddiweddar, ac ar 23 Ionawr fe anfonodd PM Property Law "ddatganiad cwblhau terfynol", yn dweud eu bod nhw wedi trosglwyddo arian rhwng Nationwide a Halifax.
Ond ar 5 Chwefror cafodd y cwpl sioc o dderbyn neges gan eu hen ddarparwyr, Halifax, yn dweud eu bod wedi methu taliad morgais.
Ar ôl cysylltu gyda'r ddau fanc, fe ddywedodd Nationwide wrthyn nhw fod PM Property Law wedi cau cyn cwblhau'r cytundeb ailforgeisio.
Roedd hi'n ymddangos fel bod arian heb gael ei drosglwyddo o un banc i'r llall gan y cyfreithwyr, oedd yn golygu bod gan y ddau gyfrifon morgais "agored" gyda'r cwpl o hyd.

Dywedodd Gabriella eu bod wedi cael gwybod y gallai eu cartref gael ei ailfeddiannu os oedden nhw'n methu taliadau morgais, felly roedd rhaid iddyn nhw dalu Nationwide a Halifax tan i'r mater gael ei ddatrys
"Nes i jyst feddwl yn syth, 'lle mae'r arian wedi mynd, a beth sydd wedi digwydd iddo fo?'" meddai Gabriella.
"Dach chi'n ymddiried mewn cyfreithwyr i ddelio gyda phethau fel hyn.
"Roedden ni jyst yn teimlo bod nhw wedi bradychu ni, o'n i'n meddwl 'pam maen nhw wedi gwneud hyn?'"
Daeth i'r amlwg fod y rhiant gwmni, PM Law Group, wedi cau'n ddirybudd ar ddechrau Chwefror, gan adael y cwpl, a channoedd o gwsmeriaid eraill, mewn trafferthion.
'Amheuaeth o dwyll bron i £40m'
Mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) nawr yn ymchwilio i "amheuaeth o dwyll soffistigedig", sy'n cynnwys "camddefnyddio a chamsymud" bron i £40m o arian cleientiaid.
Mae'r SRA bellach yn gweithio drwy "gannoedd o geisiadau eraill", gyda dros £16m wedi ei dalu hyd yma o gronfa iawndal ac arian oedd yn arfer bod yn berchen i PM Law – yn rhan fwyaf yn achosion yn ymwneud â thai.
Mae disgwyl i tua £5.5m yn rhagor gael ei ad-dalu – ond fe fydd ceisiadau nawr yn cael eu blaenoriaethu "ar sail y risg o niwed i'r rheiny sy'n hawlio", yn hytrach na'r drefn y cawsant eu cyflwyno.

Yn ôl Gabriella Smith mae hi a'i gŵr Kurtiss yn ceisio cadw pethau mor "normal" â phosib i'w merch Rosie-Hâf, er gwaethaf eu pryderon ariannol
Gyda bron i dri mis yn mynd heibio heb ddatrysiad i'r cwpl, roedden nhw felly wedi gorfod parhau i wneud taliadau morgais misol i'r ddau fanc er mwyn osgoi'r risg bod eu cartref yn cael ei ailfeddiannu.
Yn ôl Gabriella maen nhw eisoes wedi benthyg £6,000 gan deulu a ffrindiau i dalu'r costau hynny, yn ogystal â ffioedd ar gyfer cyfreithiwr newydd.
"Mae jyst wedi rhoi cymaint o bwysau arnom ni," meddai.
"Mae gyda ni ferch sy'n bump oed, felly 'dan ni'n trio 'neud bywyd mor normal â phosib, ond dwi o hyd ar y ffôn neu ar e-bost yn ceisio datrys hyn - mae o'n deimlad ofnadwy."
Datrysiad ar ôl diwrnod
Mae'r cwpl wedi cael gwybod eisoes gan yr SRA na fyddan nhw'n cael eu had-dalu am y ffioedd cyfreithiol ychwanegol maen nhw wedi eu talu hyd yma.
Ond ddydd Mercher, ddiwrnod wedi i BBC Cymru gysylltu gyda'r banciau am ymateb i achos y cwpl, fe gadarnhaodd Halifax fod y sefyllfa wedi ei datrys.
"Mae'n flin gennym na chafodd hyn ei ddatrys yn gynt," meddai llefarydd.
"Mae gennym broses i gefnogi cwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio gan gwymp PM Law, ac fe ddylen ni fod wedi cynnwys morgais Gabriella a Kurtiss ynddo.
"Rydyn ni nawr wedi cywiro hyn, cau eu cyfrif morgais, ac ad-dalu'r taliadau ychwanegol wnaethon nhw.
"Byddwn hefyd yn rhoi taliad iddyn nhw i adlewyrchu'r straen a'r anghyfleustra mae hyn wedi'i achosi."
Dywedodd Nationwide Building Society bod rhai o'u cwsmeriaid hwythau wedi cael trafferthion gyda PM Law, a'u bod nhw'n flin i glywed am broblemau'r Smiths.
"Daethon ni i wybod yn ddiweddarach fod PM Law wedi cau ac, fel llawer o fenthycwyr ar y pryd, roeddem yn aros am ddiweddariad gan yr SRA," meddai llefarydd.
"Rhoddom wybod i gwsmeriaid ar 5 Chwefror."

Roedd gan PM Law bencadlys yn Sheffield - ond fe gaeon nhw yn ddirybudd ddechrau Chwefror, sy'n gam "anarferol" i gwmni cyfreithiol yn ôl arbenigwyr
I Gabriella, mae'r diweddariad gan Halifax yn "rhyddhad mawr" - ond mae'n betrusgar o hyd tan y bydd hi'n cael cadarnhad swyddogol.
"Dwi dal yn aros i gael e'n bersonol ar bapur, achos fel allwch chi ddychmygu, ar ôl y misoedd diwethaf mae'n rhaid i fi weld o wedi sgwennu lawr," meddai.
"Ond croesi bysedd fod o'n gam i'r cyfeiriad cywir, ac mae Halifax wedi deud bod dim angen mwy o daliadau misol genno ni."
Er ei bod hi a Kurtiss yn "lwcus iawn" fod teulu a ffrindiau wedi eu helpu'n ariannol, mae'n rhaid iddyn nhw nawr ddod o hyd i ffordd o'u talu yn ôl am y £4,000 fydd ddim yn cael ei ddychwelyd o'r ffioedd cyfreithiol ychwanegol.
"Mae dal angen i ni sortio hwnna allan," meddai Gabriella.
"Ond cyn i fi siarad efo'r cyfryngau doedd neb yn cymryd fi yn ddifrifol, ac o'n i jyst yn teimlo bod fi'n siarad gyda rhywun gwahanol bob tro o'n i'n pigo'r ffôn lan.
"Nawr mae wedi dod mas mewn un diwrnod [ar ôl siarad gyda'r BBC]."
Er bod Gabriella a Kurtiss yn gobeithio bod eu trafferthion nhw ar ben, mae'r SRA yn dweud eu bod nhw'n "parhau i wneud popeth y gallwn ni" i ddychwelyd arian i bobl eraill.
"Roedd llawer o gyn-gleientiaid [PM Law] wedi wynebu trafferthion ar adeg anodd iawn, felly rydyn ni wedi bod yn benderfynol o gynnig cymaint o gefnogaeth â phosib," meddai Paul Hastings, cyfarwyddwr gwarchod cleientiaid yr SRA.
"Er mwyn cynorthwyo cyn-gleientiaid rydyn ni wedi symud staff ychwanegol i'n tîm cronfa iawndal.
"Mae'n asiantau ymyrryd hefyd yn gweithio yn ddiflino, gan gynnwys ar benwythnosau, i ddelio â chwestiynau cleientiaid."
'Anarferol' cau cwmni mor sydyn
Yn ôl Helen Knapman o wefan MoneySavingExpert, mae cau'r cwmni cyfreithiol wedi cael "effaith eang".
"Nid dim ond un cwmni oedd PM Law, ond sawl un gwahanol, yn masnachu dan ddwsinau o enwau gwahanol," meddai.
"Roedd ganddyn nhw ddegau o filoedd o gwsmeriaid, a degau o filoedd o ffeiliau cwsmeriaid."
Ychwanegodd y dylai'r rheiny sydd wedi eu heffeithio gysylltu gyda'r SRA, ond bod nifer o gwsmeriaid yn gweld oedi yn eu hachosion oherwydd bod gwaith papur ar goll.
"Edrychwch drwy eich e-byst, unrhyw hen ddogfennau allai fod wedi cael eu harbed," meddai.
"Ceisiwch ddod o hyd i unrhyw beth allai helpu symud eich achos ymlaen gyda chyfreithiwr newydd."
Roedd cau'r cwmni'n ddirybudd hefyd wedi dal cwsmeriaid yn annisgwyl, meddai.
"Fel arfer pan mae cwmni cyfreithiol yn cau, mae'n rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r SRA o flaen llaw, a rhoi pethau penodol yn eu lle i geisio amddiffyn eu cwsmeriaid cyn cau," meddai.
"Beth sy'n anarferol iawn fan hyn yw nad oedd rhybudd - fe roddodd PM Law wybod i'r SRA eu bod nhw'n cau ar y diwrnod hwnnw.
"Dyna pam bod hynny wedi creu'r sefyllfa anffodus ble mae pobl wedi cael eu gadael yn y llanast, ddim yn gwybod beth sy'n digwydd, a'r SRA yn gorfod casglu'r briwsion.
"Mae wedi bod yn broses hir a llafurus i bawb, yn anffodus."
'Adolygu er mwyn penderfynu ar y camau nesaf'
Fe gadarnhaodd Heddlu Sir De Efrog bod adroddiad o dwyll yn ymwneud â PM Law wedi cael ei gyfeirio atyn nhw, a'u bod "ar hyn o bryd yn adolygu... er mwyn penderfynu ar y camau nesaf".
Y gred yw bod yr achos wedi dod i sylw'r Swyddfa Twyll Difrifol hefyd, ond dywedodd llefarydd nad oedden nhw'n gallu "cadarnhau neu wadu unrhyw ymchwiliad i'r mater".
Mae'r BBC wedi cysylltu â PM Law am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.