Teyrngedau i Dolly Parton wrth i ymchwil newydd awgrymu cysylltiad â Machynlleth

Disgrifiad,

Owain Wyn Evans yn cofio Dolly Parton a'i diddordeb yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i un o eiconau mwya'r byd cerddorol, Dolly Parton, wrth i ymchwil awgrymu bod ei gwreiddiau Cymreig ym Machynlleth, nid Conwy.

Bu farw yn 80 oed ddydd Mawrth wedi brwydr fer â chanser, meddai ei thîm rheoli.

Mae'n cael ei hadnabod fel rhywun oedd yn gallu pontio cenedlaethau a chymunedau gyda'i cherddoriaeth.

Ganwyd Dolly Parton yn nhalaith Tennessee yn 1946 ac roedd wedi dweud bod ganddi wreiddiau Cymreig o ochr ei mam, Avie Lee Owens.

Mae ymchwil gan staff archifau Conwy wedi darganfod bod un o hynafiaid Dolly Parton, William Owen Jr, wedi'i eni ym Machynlleth yn 1584.

Daw'r ymchwil newydd ar ôl i'w theulu ddweud eu bod yn credu bod ganddynt wreiddiau yn ardal Conwy, a'u bod wedi ymfudo i'r UDA.

Wrth i'r teyrngedau lifo o bob rhan o'r byd mae nifer o Gymru wedi'i disgrifio fel person "rhyfeddol", "hollol unigryw" a "gwirioneddol dda".

Dolly Parton ifanc
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiodd Dolly Parton Coat of Many Colors ar raglen y BBC, Parkinson yn 1979

Mae hi wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau yn fyd-eang ac yn ystod ei gyrfa chwe degawd fe ysgrifennodd mwy na 3,000 o ganeuon.

Ymhlith ei chaneuon enwocaf mae Jolene, 9 to 5 ac I Will Always Love You.

Roedd hi'n cyfrannu'n helaeth hefyd at achosion elusennol, yn enwedig ym meysydd llythrennedd plant ac addysg.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd y cerddor, Doreen Lewis, sy'n ffan enfawr, bod Dolly Parton yn "eicon ym mhob ffordd - yn gweithio'n galed iawn ar ei delwedd ac ar ei chaneuon".

"O'n i 'di cael record ohoni yn ifanc iawn," meddai, "a chyn gynted â nes i glywed hi o'dd ryw gysylltiad.

"O'n i'n teimlo bo' fi'n deall beth o'dd hi'n 'neud ac yn dwli ar y llais hefyd - odd e'n lais unigryw."

Cafodd Doreen y cyfle i'w gweld hi'n fyw yng Nghaerdydd yn 2007 "a nai byth anghofio fe achos o'n i'n edmygu hi'n fawr iawn iawn iawn," meddai.

"Chi'n teimlo mae'n agos atoch chi - mae'n agos at bawb ond chi wastad yn teimlo bod hi fel chwaer neu mae fel rhyw ffrind rywsut.

"Roedd hi'n rhyfeddol."

Ychwanegodd fod y ffaith ei bod wedi ysgrifennu Jolene ac I will always love you ar yr un diwrnod "yn anhygoel".

"Odd hi'n genius mewn ffordd," meddai.

"Maen nhw'n sôn hefyd bod manager Elvis wedi dod ati ac isie defnyddio I will always love you - ac fel pob un arall odd e moyn hanner o'r gân ond dywedodd hi 'na'.

"Ac mae hwnna i ferch yr amser 'na yn dipyn o beth - yn dangos y grit yna."

Cysylltiadau â Chymru

Mae ymchwil gan archifau Conwy bellach yn awgrymu bod cysylltiadau Cymreig Dolly Parton yn arwain at Fachynlleth, yn hytrach na Chonwy fel y credwyd yn flaenorol.

Dywedodd staff yr archifau "nad oes modd dweud yn bendant nad oes cysylltiadau eraill â Chonwy", gan fod yr ymchwil wedi'i seilio ar adnoddau sydd ar gael i'r cyhoedd.

Dywedodd Elysia Garner, o wasanaeth archifau Conwy, fod chwilfrydedd wedi eu harwain i ymchwilio i'r cysylltiad, "a gan ddefnyddio gwybodaeth oedd ar gael yn gyhoeddus, roedden ni'n gallu llunio coeden deulu".

Dywedodd Gary Jones o'r archifau fod y tîm wedi gallu olrhain y rhan fwyaf o ganghennau o deulu Dolly Parton yn ôl i'r 1700au, ond eu bod wedi cyrraedd y 1500au ym Machynlleth, a'u bod yn "hapus i stopio" eu hymchwil.

Dolly PartonFfynhonnell y llun, Michael Ochs Archives/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dolly Parton yn 1974

Dywedodd yr Athro ym maes cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, Sarah Hill fod Dolly'n berson "hollol unigryw" oedd yn dweud pethau'n "blwmp ac yn blaen".

"Mae pobl sy'n hoffi cerddoriaeth canu gwlad, neu sy'n licio hi fel menyw eithafol, neu'r bobl sy'n licio ei hactio, neu ei chyfansoddi neu hyd yn oed y stwff humanitarian odd hi'n neud - roedd pawb yn gweld daioni ynddi hi.

"Roedd hi'n berson hollol unigryw a gwirioneddol dda - does dim ffordd arall i esbonio hi."

Aeth Sarah Hill ymlaen i esbonio sut roedd ei chefndir yn dylanwadu ar ei cherddoriaeth: "Oedd hi'n dlawd iawn fel plentyn - yn un o 12 o blant yn byw mewn lle un ystafell yn y mynyddoedd yn Tenneesse.

"Roedd yr origins yna'n dod mewn i'w cherddoriaeth," ond er iddi fod yn y llygaid cyhoeddus ers yn ifanc anghofiodd hi fyth mo'i chefndir.

"Un o'r pethau pwysicaf iddi oedd mynd yn ôl i'w chymuned," ychwanegodd yr Athro Hill.

Fe ddechreuodd raglen o'r enw Imagination Library gan roi llyfr am ddim i bob plentyn lleol i ddechrau ac yna wrth i'r prosiect dyfu roedd miloedd o lyfrau'n cael eu hanfon i blant o gwmpas y byd bob mis.

Ffans yn talu teyrngedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogwyr wedi bod yn talu teyrnged i'r seren yn ei hardal leol yn Tennessee

Fe gafodd y cyflwynydd radio, Owain Wyn Evans, gyfle i holi Dolly Parton yn 2021 a dywedodd ei fod yn "brofiad anhygoel".

Daeth y newyddion fel sioc meddai: "Oedd pawb jest yn meddwl byddai Dolly Parton wastad 'ma - o'dd yr apêl mor eang, oedd pawb yn dwli ar Dolly Parton.

"Un peth fi'n cofio - roedd diddordeb gyda hi yn y ffaith bod acen Gymraeg 'da fi a nath hi dreulio amser jest yn trio dweud Owain yn iawn.

"Doedd dim isie hi neud 'na ond odd hi'n rili neis.

"Oedd e'n brofiad anhygoel [cyfweld â hi]. Oedd hi'n siard 'da fi am y ffaith o'n i'n dod o Gymru ac odd hi'n gwbod tipyn bach am gerddoriaeth Cymraeg."

Aeth Owain ymlaen ar raglen Dros Frecwast i ddweud "fel person hoyw odd hi'n un o'r icons hoyw mwyaf yn y byd ac odd hi'n hael iawn gyda'i chefnogaeth i bobl LGBTQ hefyd yn ystod ei gyrfa.

"Yn y byd cerddoriaeth country and western mae'n gallu bod yn eitha' anarferol a fi'n credu oedd Dolly yn unigryw yn hynny ac mae lot o bobl rili yn mynd i weld isie hi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig