'Argyfwng' carthion yn y dŵr yn destun protest ar draws Cymru

Roedd protest yn Ynys y Barri brynhawn Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Cafodd protestiadau eu cynnal ar draws Cymru ddydd Sadwrn fel rhan o ymgyrch yn erbyn llygredd carthffosiaeth mewn afonydd a moroedd.
Roedd digwyddiadau yng Nghymru yn Abertawe, Llanberis, Sir Benfro, Porthcawl, Ynys y Barri ac Aberystwyth.
Roedd y protestiadau wedi'u trefnu gan yr elusen amgylcheddol Surfers Against Sewage, wedi'u cynnal ger dros 50 o draethau, afonydd a llynnoedd ledled y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y protestwyr eu bod am weld mwy o weithredu gan lywodraethau a chwmnïau dŵr i fynd i'r afael â'r "argyfwng carthffosiaeth".

Dywedodd prif weithredwr Surfers Against Sewage, Giles Bristow, fod system ddŵr Cymru yn "methu'n drychinebus"
Mae arolwg barn newydd a wnaed ar ran yr elusen yn awgrymu bod mwy na hanner pobl y DU yn poeni y bydden nhw'n mynd yn sâl wrth nofio mewn afonydd, llynnoedd a moroedd oherwydd ansawdd gwael y dŵr.
Dywedodd un o bob chwech hefyd (17%) eu bod nhw neu rywun maen nhw'n ei adnabod wedi bod yn sâl oherwydd llygredd carthffosiaeth.
Yn ôl yr elusen, cafodd carthffosiaeth ei rhyddhau dros 100,000 o weithiau gan Dŵr Cymru yn ystod 2025.

Dywedodd Tomos Barton fod Llyn Padarn yn "bwysig iawn" i'r gymuned leol
Roedd Tomos Barton o Fethesda ymhlith y rhai oedd yn cefnogi un o'r protestiadau yn Llanberis, ger Llyn Padarn fore Sadwrn.
"Dwi'n dod i Lyn Padarn ers dwi'n ifanc iawn, mae'r lle'n bwysig i mi", meddai.
"Mae'n amlwg fod y cwmnïau dwr 'ma ddim hefo diddordeb mewn cadw ein dŵr yn saff ac yn lân.
"Mae'r llyn yma yn lynchpin o'r diwylliant lleol ac yn bwysig iawn i bobl sy'n byw yma."
Ychwanegodd ei fod yn "hyderus" wneith y llywodraeth newydd wrando ar eu pryderon.
"Maen nhw angen cymryd hyn o ddifrif, ond dwi'n gobeithio fyddan nhw'n cymyd sylw o be 'da ni'n neud heddiw."

Dywedodd Meg Davies fod y gefnogaeth i'r brotest wedi bod yn "galonogol"
Dywedodd Meg Davies o'r elusen Surfers Against Sewage, sydd hefyd yn byw'n lleol, fod y gefnogaeth yn Llanberis wedi bod yn "galonogol".
Ychwanegodd fod 57 o brotestiadau tebyg wedi digwydd ar draws y Deyrnas Unedig dros y penwythnos.
"Mae'n bwnc anferth yn ein cymunedau ar hyn o bryd," meddai.
"Rhoi cyfle i'r gymuned godi eu llais ydy hyn, mae'r llyn mor bwysig i bobl leol a hefyd twristiaeth, mae hi mor bwysig fod pobl yn cael cyfle i ddangos pa mor bryderus ydyn nhw.
"Mae hi mor bwysig fod y llyn yma yn ddiogel a nad ydy pobl yn mynd yn sâl."
Dywedodd prif weithredwr Surfers Against Sewage, Giles Bristow, fod system ddŵr Cymru yn "methu'n drychinebus".
"Mae dyfroedd llygredig, biliau uchel a diffyg atebolrwydd wedi creu sefyllfa annerbyniol," meddai.
Dywedodd Kate Bassett-Jones, oedd yn arwain protest yn Aber Llydan yn Sir Benfro, fod ei thraeth lleol wedi gweld 116 o rybuddion carthffosiaeth yn ystod 2025.
"Dylai pobl leol allu mwynhau'r môr yn ddiogel drwy'r flwyddyn," meddai.

Roedd protestwyr yn galw am fwy o weithredu i ddiogelu afonydd a llynnoedd Cymru
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth, wedi penodi ei Gabinet ac y bydd "gweinidogion yn nodi eu blaenoriaethau yn fuan".
Mewn datganiad dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn "cymryd eu cyfrifoldeb dros ddiogelu dyfroedd ymdrochi o ddifrif".
Ychwanegodd y cwmni fod 98% o ddyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru yn cyrraedd safonau ansawdd llym, a'u bod yn buddsoddi £4bn rhwng 2025 a 2030, gyda £2.5bn ohono ar brosiectau amgylcheddol.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn rhannu pryderon am effaith llygredd ar afonydd ac arfordir Cymru.
Ychwanegodd y corff eu bod wedi cryfhau eu dull rheoleiddio ac yn disgwyl i gwmnïau dŵr sicrhau "gostyngiadau parhaus" mewn gollyngiadau carthffosiaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 Mai

- Cyhoeddwyd27 Ebrill
