Criwiau achub yn chwilio am berson coll oddi ar arfordir Sir Benfro

Gwasanaeth Gwylwyr y Glannau sy'n cydlynu'r ymgyrch i ddod i hyd i berson sy'n dal ar goll oddi ar arfordir Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau achub yn chwilio am berson sydd ar goll ar ôl mynd i drafferthion oddi ar yr arfordir yn Sir Benfro.
Fe gafodd Gwylwyr y Glannau wybod tua 15:30 brynhawn Sul 30 Awst bod tri pherson "mewn trafferthion yn y dŵr ac angen cymorth" yn ardal Marloes, ger Aberdaugleddau.
Yn ôl datganiad y gwasanaeth, fe lwyddodd "dau o'r tri pherson i achub eu hunain ac mae un person yn dal ar goll".
Daeth y chwilio cychwynnol i ben am 03:30 y bore cyn ailddechrau ddydd Llun.
Mae criwiau Gwylwyr y Glannau o Aberllydan, Dale a Thyddewi yn rhan o'r ymateb hyd yn hyn, ynghyd â chriwiau bad achub o Angle, Aber-bach, Dinbych-y-pysgod a Thyddewi, hofrennydd, tîm dronau a'r gwasanaeth ambiwlans.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.