Mari Grug fydd Llywydd Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las

Mari GrugFfynhonnell y llun, Glyn Ranier
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mari Grug bod derbyn gwahoddiad i fod yn Llywydd Eisteddfod y Garreg Las ym mis Awst "yn dipyn o sioc"

  • Cyhoeddwyd

Y ddarlledwraig a'r cyflwynydd, Mari Grug, fydd Llywydd Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni.

Dywedodd bod derbyn y gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith "yn dipyn o sioc" a'i fod yn "anrhydedd fawr".

Roedd y brifwyl eleni eisoes yn mynd i fod yn un arbennig iddi wedi iddi gael y newyddion y bydd yn cael ei hurddo â gwisg las yr Orsedd.

Fe fydd hi'n annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar y Maes yn Llantwd yn ystod y seremoni agoriadol ddydd Sadwrn 1 Awst.

'Rhan fawr o 'mywyd i erioed'

Dywedodd nad oedd wedi disgwyl y gwahoddiad "ond i'r rheini sy'n fy adnabod, maen nhw'n gwybod bod yr Eisteddfod wedi bod yn rhan fawr o 'mywyd i erioed".

"Cefais fy magu gydag Eisteddfod yr Urdd, ac yna, diolch i Marilyn Lewis, cefais fy nghyflwyno i'r Eisteddfod Genedlaethol gyda Chôr Newyddion Da. Wedyn, cystadlu gyda'r côr mewn cystadlaethau canu ac alawon gwerin, ac yn unigol yn llefaru.

"Rwy'n falch iawn o'r gwahoddiad, ac rwy'n gobeithio y galla i fod yn rhyw fath o lysgennad i'r Eisteddfod, a denu mwy o bobol i ddod i'r Maes i fwynhau beth rwyf i wedi'i fwynhau ers blynyddoedd.

"Mae wythnos Eisteddfod y Garreg Las yn sicr o fod yn brysur – mae'r amserlen eisoes yn llawn digwyddiadau a seremonïau, ond gobeithio y bydd cyfle hefyd i fwynhau tipyn ar yr wythnos."

Cafodd Mari ei magu ar fferm ym Mynachlog-ddu, a'i haddysgu yn Ysgol y Preseli, Crymych, cyn graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd a dechrau ar yrfa yn y cyfryngau.

Roedd yn actores yn wreiddiol, yn y gyfres 'Darn o Dir', ond aeth ymlaen i gyflwyno'r rhaglen 'Planed Plant' cyn ymuno â thîm tywydd Newyddion S4C.

Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni o brif wyliau Cymru - Eisteddfod yr Urdd, y Sioe Fawr, yr Ŵyl Gerdd Dant, a'r Eisteddfod Genedlaethol - ond yn fwyaf adnabyddus fel un o gyflwynwyr y rhaglenni dyddiol 'Heno' a 'Prynhawn Da'.

Mari GrugFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe ranodd y gyflwynwraig ei phrofiad o fyw gyda chanser yn rhaglen S4C, Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro

Mae Mari hefyd yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru, ac yn y cyflwyno'r podlediad 1 mewn 2 sy'n rhannu ei phrofiadau ers cael diagnosis yn 2023, yn 38 oed, o ganser y fron.

Mae'r gyflwynwraig boblogaidd o Sanclêr, sydd bellach yn llysgennad ar ran Ymchwil Canser Cymru, yn dal yn cael triniaeth wedi i'r cyflwr ledu i'w nodau lymff a'i hafu.

Mae gan Mari atgofion "hyfryd" o'r tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ag ardal y brifwyl eleni - hi oedd Cyflwynydd y Flodeuged yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002.

"Roedd honno'n wythnos brysur hefyd, gyda seremonïau'r Orsedd a'r cystadlu – a bod allan yn y nos yn mwynhau! Ac rydw i'n edrych ymlaen at gael chwarae rôl eleni eto a hynny fel Llywydd yr Ŵyl."

Mae'r Cymry amlwg eraill a gafodd eu gwahodd i fod yn Llywydd yr Ŵyl yn y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys yr actor, Mark Lewis Jones, y cyflwynydd a'r DJ, Huw Stephens a'r Aelodau Seneddol, Liz Saville Roberts a Ben Lake.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.