Dim ond chwerthin yn Y Fangre Hon

Podlediad newydd: Y Fangre Hon gyda Trystan ac Emma
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Trystan ac Emma ar eu rhaglen fore Gwener eu bod yn mynd i fod yn rhyddhau podlediad newydd sbon.
Bydd pennod gyntaf Y Fangre Hon yn cael ei rhyddhau ar BBC Sounds ddydd Gwener, 19 Mehefin, ac yna ar gael i'w gwylio ar sianel YouTube BBC Radio Cymru , dolen allanolyr wythnos ganlynol. Yn ôl y ddeuawd boblogaidd, "bydd bob math o bethe yn gallu digwydd" yn Y Fangre Hon a'u bod nhw "methu aros i'ch croesawu i'r fangre."
I nodi'r achlysur, mae Cymru Fyw yn cymryd cipolwg ar ychydig o'r hwyl maen nhw wedi'i gael gyda'r rhaglen dros y blynyddoedd.
Her Dim Chwerthin gyda Iodl Ieu
Mewn cyfres ddigidol fer, fe heriodd tîm rhaglen Trystan ac Emma y ddau i beidio â chwerthin wrth i ffrindiau'r rhaglen wneud eu gorau glas i oglais eu synnwyr digrifwch. Un o'r rhai ddaeth i'r stiwdio oedd Iodl Ieu gyda llond llaw o "jôcs tadau". Dyma sut aeth hi.
EastEdenders
Pan ddathlodd opera sebon EastEnders ei ben-blwydd yn 40 yn 2025, fe achubodd criw rhaglen Trystan ac Emma ar y cyfle i dalu teyrnged i un o olygfeydd mwyaf eiconig y gyfres.
EastEdenders: Teyrnged Trystan ac Emma i'r opera sebon
Syrpreis i Emma dros 30 mlynedd yn ddiweddarach
Cyn Eden, roedd Cola. Yn y 1990au cyn i Eden fod yn Eden, fe aeth Emma, Rachael a Non ar raglen This Morning yn y gobaith o gael makeover i'w band nhw, Cola.
Fe ddaeth tîm y rhaglen o hyd i'r eitem yn yr archif, a'i ddangos i Trystan ac Emma a hynny i ymateb doniol dros ben.
Ymateb Trystan ac Emma i glip archif o 'Cola' ar This Morning yn 1995
Hefyd o ddiddordeb
Lluniau: Dawnsathon 24 awr Trystan ac Emma
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2025
Cwis: Eden
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2024
Trystan Ellis-Morris: 'Bydd Dad yno efo fi'
- Cyhoeddwyd25 Mai 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.