Drakeford yn cysylltu cwymp Llafur Cymru â diffyg pwerau newydd

Mark Drakeford a Keir Starmer yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno yn 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford a Keir Starmer yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-brif weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn dweud bod llywodraeth Lafur y DU wedi cynnig "cyn lleied" i Gymru o ran pwerau newydd ers iddi ddod i rym yn 2024.

Ymosododd Drakeford ar ASau Llafur Cymru yn San Steffan, gan ddadlau bod diffyg agenda datganoli ganddynt yn ffactor arwyddocaol yng ngholled y blaid yn etholiad y Senedd y mis hwn.

Dywedodd Drakeford, yn y cyfweliad gyda'r BBC, fod "pwynt gwerthu unigryw" Llafur o gefnogi Cymru i gael mwy o reolaeth dros ei materion ei hun o fewn y Deyrnas Unedig, yn hytrach na mynd ar ei phen ei hun, wedi'i wanhau gan ei blaid ei hun.

Mewn ymateb, dywedodd ffynhonnell o'r Blaid Lafur yng Nghymru fod cyfraith 20mya llywodraeth Drakeford, yn ogystal â rhestrau aros GIG Cymru, y penderfyniad i ehangu'r Senedd a newid system bleidleisio Cymru, a theimlad bod llywodraeth Cymru wedi tynnu ei llygad oddi ar faterion dyddiol "i gyd wedi cyfrannu at y canlyniad".

"Fel prif bensaer colled drom Llafur, byddech chi'n meddwl y byddai Mark yn dangos rhywfaint o ostyngeiddrwydd gyda chyfnod o dawelwch," medden nhw.

"Dylai Mark fyfyrio ar ganlyniadau ei arweinyddiaeth cyn beio eraill."

Burnham yn 'deall datganoli'

Mae Drakeford hefyd wedi galw ar Brif Weinidog y DU Keir Starmer i osod amserlen ar gyfer ei ymadawiad.

Mr Drakeford yw'r arweinydd Llafur Cymru diwethaf i ennill etholiad Senedd, a dywedodd ei fod yn cefnogi Andy Burnham i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur a Phrif Weinidog y DU.

Wrth siarad â Channel 4 News, dywedodd fod Syr Keir yn "ddyn hoffus" ond bod "cyfuniad o amgylchiadau a gallu" yn golygu nad oedd ei arweinyddiaeth wedi gweithio.

Dywedodd hefyd wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fod Mr Burnham yn "deall datganoli" a bydd yn dod â phersbectif gwahanol i San Steffan os daw'n arweinydd y Blaid Lafur gan nad yw'n dod o Lundain.

"Dwi'n meddwl mae o [Starmer] wedi colli hyder pobl yn gyffredinol yn y gwaith mae'n trio gwneud," meddai Mr Drakeford.

"Mae'n siom i fi achos mae'n rhywun deallus, a dwi'n siŵr mae'n trio ei orau bob dydd" ond "bron bob tro" mae aelodau'r blaid mas yn siarad â phobl mae gallu Mr Starmer i gyflawni ei rôl yn effeithlon yn cael ei gwestiynu.

"Pob dydd y sgwrs yw, 'Ydi Keir Starmer yn mynd i barhau?, ac fel yna mae gwaith pwysig y prif weinidog ddim yn gallu cael ei wneud," meddai.

"Mae tymor da 'ni o lywodraeth Llafur yn San Steffan, dydyn ni ddim hanner ffordd trwy ein tymor eto.

"Mae un cyfle 'da ni i gael rhywun newydd i mewn sy'n gallu cyfathrebu gyda'r bobl, sy'n gallu dangos llwybr o'n blaen ni," meddai.

"Nawr yw'r amser i newid."

Andy Burnham yn gwneud araith ar lwyfanFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Drakeford fod Andy Burnham yn gefnogol iawn o ddatganoli

Andy Burnham sy'n cael cefnogaeth Mr Drakeford. Mae Mr Burnham, Maer Manceinion, yn sefyll yn isetholiad Makerfield mewn ymgais i ailymuno â Thŷ'r Cyffredin.

"Mae e'n deall datganoli," meddai Mr Drakeford.

Dywedodd hefyd wrth Channel 4 ei bod yn "bwysig iawn i'r Blaid Lafur gael arweinydd nad yw wedi'i leoli yn Llundain".

"Rydym wedi cael cyfres o arweinwyr sydd â'u gwreiddiau yn ne-ddwyrain y Deyrnas Unedig.

"Mae angen rhywun arnom sy'n siarad yn ddilys dros y Deyrnas Unedig ehangach - rhanbarthau Lloegr, cenhedloedd y Deyrnas Unedig.

"Rwy'n credu mai Andy yw'r gorau i wneud hynny, a dyna pam y bydd ganddo fy nghefnogaeth gref."

Dywedodd Drakeford fod y strategaeth a ddilynwyd gan Lafur yng Nghymru yn yr etholiad diwethaf "yn un anghywir".

"Treulion ni ein hamser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd y byddem ni'n atal pleidleisiau rhag gadael i Reform, ond ni wnaeth pleidleisiau ein gadael ni i Reform.

"Gadawodd pleidleisiau i bleidiau blaengar eraill."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.