Mari Grug a'r gyfres Amour a Mynydd ymhlith enillwyr BAFTA Cymru 2026

Mari Grug ac Elin Fflur yn gwenu gyda'u tlysauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Mari Grug wobr Cyflwynydd eleni ac Amour a Mynydd, sy'n cael ei chyflwyno gan Elin Fflur, oedd y Rhaglen Adloniant orau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor Matthew Rhys a'r gyflwynwraig Mari Grug ymhlith enillwyr seremoni BAFTA Cymru 2026.

Roedd yna ddwy wobr yr un i'r ffilm ddogfen Y Crwydryn a'r gyfres ddrama The Guest yn y seremoni yn Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru, Casnewydd nos Sul.

Ond doedd yna'r un wobr i'r ffilm Madfabulous, am hanes pumed Marcwis Ynys Môn, oedd wedi sicrhau'r nifer fwyaf o enwebiadau eleni, sef chwech.

Roedd yna wobr arbennig hefyd i'r darlledwr Carol Vorderman - derbynnydd Wobr Siân Phillips eleni am Gyfraniad Arbennig.

Ac fe dderbyniodd y cyfarwyddwr castio Lauren Evans Wobr Cyfraniad Arbennig i'r Grefft BAFTA Cymru.

Daeth Matthew Rhys i'r brig yng nghategori'r Actor Gorau am eu berfformiad yn y gyfres ddrama The Beast In Me - rôl sydd eisoes wedi ennill Emmy iddo eleni.

Mari Grug oedd cyflwynydd gorau'r flwyddyn am y rhaglen Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro, sy'n olrhain y cyfnod wedi iddi gael gwybod ei bod â chanser am yr eildro.

Roedd yna anrhydeddau i sawl cynhyrchiad Cymraeg arall, gan gynnwys y wobr am y Rhaglen Adloniant orau i'r gyfres Amour a Mynydd.

Aeth y tlws Dogfen Unigol i'r ffilm Y Crwydryn, a daeth Rhys Edwards i'r brig yn y categori cyfarwyddwr ffeithiol am ei waith arni.

Wil Tân yn Y CrwydrynFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y canwr Wil Tân, sy'n rhoi golwg ar ganu gwlad yn y ffilm Y Crwydryn

Roedd yna ddwy wobr hefyd i Y Golau: Dŵr - am fod y Drama Deledu orau ac i Mali Evans am ei gwaith golygu.

Stori'r Iaith oedd enillydd y wobr Cyfres Ffeithiol a Foden: O Brifathro i Bedoffeil oedd enillydd y wobr y Rhaglen Newyddion / Materion Cyfoes.

Roedd y gyfres Saesneg The Guest wedi cael pum enwebiad ac fe enillodd ddwy wobr - i'r actores Gabrielle Creevey a'r awdur Mathew Barry.

Roedd cipio dros hanner wobrau'r noson yn destun balchder i S4C.

Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys y sianel, Llion Iwan: "Roedd yr holl enillwyr mewn ystod mor eang o gategoriau a gafodd S4C yn dystiolaeth glir o greadigrwydd a doniau eithriadol y sector gynhyrchu yng Nghymru, ac yn destun balchder mawr.

"Hoffwn ddiolch o galon i'r holl enillwyr am gynhyrchu cynnwys o'r safon uchaf ar draws ystod eang o genres a straeon sy'n adlewyrchu Cymru gyfoes."

Holl enillwyr ac enwebiadau 2026

Actor

  • ENILLYDD: Matthew Rhys - The Beast In Me

  • Callum Scott Howells - Madfabulous

  • Jonathan Pryce - Under Salt Marsh

  • Tom Cullen - Trespasses

Actores

  • ENILLYDD: Gabrielle Creevy - The Guest

  • Buddug Povey - Rownd a Rownd

  • Eve Myles - The Guest

  • Sian Reese-Williams - Power: The Downfall of Huw Edwards

Cymeriad Eve Myles yn coluro gwefus cymeriad Gabrielle Creevey yn y gyfres ddrama The GuestFfynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eve Myles a Gabrielle Creevey wedi cael eu henwebu am eu perfformiadau yn The Guest, ond Creevey aeth â hi

Cyfarwyddwr: Ffeithiol

  • ENILLYDD: Y Crwydryn - Rhys Edwards

  • James Hale - Cannabis Cove: Operation Seal Bay

  • Andy Pritchard - Fy Ffrind ar Death Row

  • Stori'r Iaith - Siôn Pierce Lewis

Cyfarwyddwr: Ffuglen

  • ENILLYDD: Gareth Bryn - Karen Pirie

  • Gruff Rowland - Bariau

  • Lee Haven Jones - The Lady

  • Euros Lyn - Wayward

Golygu

  • ENILLYDD: Mali Evans - Y Golau: Dŵr

  • Kevin Jones - Madfabulous

  • Jules Cornell - Richard Burton: Wild Genius

  • Leusa Gwenllian - Stori'r Iaith

Adloniant

  • ENILLYDD: Amour a Mynydd

  • Other Voices: Cardigan 2025 with Huw Stephens

  • Stiwdio 24/7

  • Y Llais

Carol Vorderman a Lauren EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillwyr gwobrau arbennig y noson - y cyflwynydd Carol Vorderman a'r cyfarwyddwr castio Lauren Evans

Cyfres Ffeithiol

  • ENILLYDD: Stori'r Iaith

  • Flaming Feasts

  • SOS: Extreme Rescues

  • Vanished Wales

Ffilm

  • ENILLYDD: Mr Burton

  • Madfabulous

  • Tanau'r Lloer

  • The Man In My Basement

Rhaglen Newyddion / Materion Cyfoes

  • ENILLYDD: Foden: O Brifathro i Bedoffeil

  • Cymru ar Gyffuriau

  • Maxine Hughes - Canser: Ar Ba Gost

  • The Hospice - Caring To The End

Anna-Marie Robinson gyda'r tlws Rhaglen Newyddion /Materion CyfoesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Anna-Marie Robinson wnaeth dderbyn y tlws Rhaglen Newyddion /Materion Cyfoes ar ran tîm cynhyrchu Foden: O Brifathro i Bedoffeil

Ffotograffiaeth a goleuo Ffuglen

  • ENILLYDD: Under Salt Marsh

  • Havoc

  • Madfabulous

  • The Guest

Cyflwynydd

  • ENILLYDD: Mari Grug - Mari Grug: Un Dydd Ar Y Tro

  • Sian Eleri - Keeping The World Away: Finding Gwen John

  • Huw Stephens - Other Voices Cardigan 2025 With Huw Stephens

Rhaglen Blant

  • ENILLYDD: Itopia

  • Dreigiau Cadi: Y Briodas

  • Ysbryd yr Oerfel

Rhes o wobrau BAFTA CymruFfynhonnell y llun, BAFTA Cymru

Ffilm Fer

  • ENILLYDD: Gofod Ymennydd - Brain Space

  • Barcud

  • Flock

  • Love Me, Hold Me, Always

Dogfen Unigol

  • ENILLYDD: Y Crwydryn

  • Boom Town: How Merthyr Made The World

  • Keep The World Away - Finding Gwen John

  • Richard Burton - Wild Genius

Sain

  • ENILLYDD: Tîm sain - Havoc

  • Deian Humphreys - The Man In My Basement

  • Tîm sain - Madfabulous

Drama deledu

  • ENILLYDD: Y Golau: Dŵr

  • Stad

  • The Guest

Awdur

  • ENILLYDD: Matthew Barry - The Guest

  • Ciron Gruffydd - Bariau

  • Lisa Baker - Madfabulous

  • Claire Oakley - Under Salt Marsh

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.