Y myfyriwr yn Aberystwyth sy'n deifio ym moroedd Cymru fin nos

Iestyn Morgan wrth y morFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Iestyn ddim fel arfer yn deifio'n is nag wyth metr o ddyfnder

  • Cyhoeddwyd

I nifer, mae dyfnderoedd y môr yn le brawychus ac anghyfarwydd, ond mae un myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wrth ei fodd yn darganfod rhai o gyfrinachau'r môr wedi iddi dywyllu.

Mae Iestyn Morgan, 21 oed o Sir Benfro, yn defnyddio ei gyfrif TikTok er mwyn rhannu fideos o greaduriaid gwahanol y môr.

Mae o'r farn nad oes angen teithio dramor i weld y rhywogaethau yma, a'u bod yma "ar stepen ein drws" yng Nghymru.

Mae Iestyn wedi caru'r môr erioed, ond cafodd ysbrydoliaeth i roi tro ar ddeifio rhydd (freediving) ar ôl gwylio fideo ar-lein ym mis Ebrill 2025.

"Fi'n credu mai'r gwir amdani yw bod yr anifeiliaid yma yn fwy ofnus ohona i nag ydw i ohonyn nhw," meddai.

"Dim yn aml maen nhw'n gweld dyn yn neidio o gwmpas yn y môr gyda thortsh!"

'Cymaint i'w weld'

Dywedodd Iestyn mai'r fideos yn ystod y nos yw'r rhai y mae pobl yn eu mwynhau fwyaf, wrth i ystod o rywogaethau gan gynnwys môr-gyllyll (squid) a morgath (stingray) ddod i'r amlwg.

"Mae pobl yn meddwl bo' angen i chi deithio ymhell dramor i brofi amrywiaeth o'r fath, ond does dim rhaid i chi - mae yma ar eich stepen drws," meddai.

Dywedodd mai un o'r profiadau gorau oedd "pan o'n i allan yn y nos a gweld yr hyn ro'n i'n meddwl oedd haid o tua 50 o ddraenogod môr, ac roedden nhw'n dod tuag ata i.

"Ond wrth iddyn nhw ddod yn agosach, nes i sylweddoli mai môr-gyllyll oedden nhw, oedd yn cael eu denu at olau fy fflachlamp.

"Felly am ryw funud roedd gen i tua 50 o fôr-gyllyll yn fy amgylchynu, oedd mor cŵl.

"Doedd gen i ddim syniad fy hun fod cymaint allan yna i'w weld, a dyna rydw i eisiau dangos yn fy fideos."

Beth yw deifio rhydd?

Mae deifio rhydd (freediving) yn gamp lle mae pobl yn mynd i o dan wyneb y dŵr ar un anadl.

Yn ôl y British Freediving Association (BFA), mae'r rhan fwyaf o ddeifwyr a nofwyr wedi ymarfer deifio rhydd ar ryw bwynt, ond mae deifio rhydd proffesiynol yn golygu llawer o hyfforddi a thechneg arbenigol.

Mae'r gamp yn gysylltiedig â nifer o risgiau iechyd difrifol, ac mae'r BFA yn rhybuddio pawb i wneud cwrs gyda hyfforddwr trwyddedig cyn deifio ac i beidio deifio ar eich pen eich hunain.

Dywed Iestyn, myfyriwr daearyddiaeth yn ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei fod yn ymwybodol o'r risgiau a'i fod wastad yn deifio gyda rhywun arall.

Iestyn MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn Morgan wedi gweld nifer o rywogaethau anhygoel wrth ddeifio gyda'r hwyr

Ond sut dymheredd yw môr Cymru tybed?

Mae tymheredd cyfartalog y môr o amgylch y DU ac Iwerddon yn amrywio o 6-10C yn y gaeaf i 15-20C yn yr haf, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Ond yn ystod cyfnod cynnes yn haf 2025 fe wnaeth tymheredd y môr mewn rhannau o'r DU gynyddu hyd at 3C yn uwch na'r arfer ar adegau.

Mae dadansoddiad gan y BBC wedi canfod fod cefnforoedd ar draws y byd wedi torri cofnodion tymheredd pob dydd dros y flwyddyn 2024, o ganlyniad i gynhesu byd eang.

Er i Iestyn gydnabod ei fod yn "cŵl gan 'mod i'n cael gweld cymaint o rywogaethau newydd," ychwanegodd ei fod yn "bryder wrth edrych at y dyfodol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.