'Apwyntiadau 10 munud yn ei gwneud yn anoddach gwirio am ganser gynaecolegol'

Dr Amara Naseem
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Amara Naseem yn dweud fod meddygon teulu dan bwysau i gynnig mwy o apwyntiadau, yn hytrach na chanolbwyntio ar driniaeth o safon

  • Cyhoeddwyd

Mae pwysau ar feddygfeydd i gynnig mwy o apwyntiadau yn ei gwneud yn anoddach cynnwys profion am ganserau gynaecolegol yn ystod slotiau 10 munud, medd meddygon.

Dywedodd Dr Amara Naseem fod ei chlinigau'n rhedeg dros amser yn rheolaidd gan fod angen tua 20 munud i gymryd hanes meddygol manwl a chynnal archwiliadau mewnol mewn ffordd sensitif.

Mae arolwg o feddygon teulu yng Nghymru wedi canfod bod tua hanner o'r 100 a holwyd yn ystyried amser cyfyngedig apwyntiadau yn bryder mawr.

Roedd traean yn poeni am atgyfeirio gormod o bobl am brofion i ddiystyru canser, oherwydd y pwysau sydd eisoes ar ysbytai.

Dywedodd elusen canser Tenovus fod cyfraddau achosion a marwolaethau o ganserau gynaecolegol yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU, a bod angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynyddu buddsoddiad mewn gofal sylfaenol ac yn recriwtio hyd at 100 o feddygon teulu ychwanegol.

Mae tua 95% o gleifion sy'n cael profion oherwydd amheuaeth o ganser yn cael gwybod yn ddiweddarach nad oes ganddyn nhw ganser.

Ond dywed meddygon y gall fod yn anodd adnabod achosion o ganser yn gynnar pan fo symptomau fel bol chwyddedig yn anodd eu gwahaniaethu oddi wrth gyflyrau eraill fel syndrom coluddyn llidus (IBS).

Dywedodd Dr Naseem fod y pwysau gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar "gynnig mwy o apwyntiadau i'r claf, yn hytrach nag ar ansawdd y driniaeth".

'Sgrinio eisoes yn isel'

Mae nifer llai o feddygfeydd yn ei hardal hefyd yn golygu ei bod wedi cymryd mwy o gleifion ac mae hi'n ofni bod risg na fydd menywod yn codi symptomau gynaecolegol nac yn mynychu sgrinio os yw apwyntiadau'n cael eu brysio, yn boenus neu heb eu trin yn dda.

Ychwanegodd ei bod hi'n "gweithio mewn cymuned amrywiol a difreintiedig lle mae'r nifer sy'n manteisio ar sgrinio eisoes yn isel".

Dywedodd fod rhai problemau iechyd menywod yn gofyn am archwiliad mewnol, ac y gall hynny gymryd amser i'w wneud "mewn ffordd empathetig a sensitif".

Ychwanegodd fod angen amser hefyd i egluro beth mae sgrinio'n ei olygu, chwalu ofnau ac, mewn rhai achosion, gweithio gyda chyfieithwyr.

Lowri Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri Griffith o elusen Tenovus yn dweud bod angen i Gymru fod yn "fwy uchelgeisiol" mewn gofal gynaecolegol

Dywedodd Lowri Griffith o Tenovus fod addewidion i gynyddu nifer y meddygon teulu i'w croesawu, ond bod angen mynd i'r afael â gofal sylfaenol a gofal ysbyty er mwyn gwella'r system.

Mae tua 1,200 o fenywod yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol bob blwyddyn, gan gynnwys canser y groth, yr ofari, ceg y groth, y fwlfa neu'r fagina, ac mae tua 470 yn marw.

Dim ond ar gyfer canser ceg y groth y mae sgrinio ar gael, ac nid yw'r prawf yn canfod y canserau gynaecolegol eraill.

Dr Kathrin Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Kathrin Thomas o Deep End Cymru yn dweud bod nifer y meddygon teulu wedi aros bron yr un fath wrth i'r llwyth gwaith gynyddu

Dywedodd Dr Kathrin Thomas, cyn-feddyg teulu ac arbenigwr iechyd cyhoeddus, fod nifer y meddygon teulu yng Nghymru "bron wedi aros yr un fath", tra bod baich y gwaith wedi cynyddu.

Mae hi hefyd yn rhan o Deep End Cymru, rhwydwaith o feddygfeydd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Dywedodd fod "anghydraddoldeb eang rhwng menywod mewn ardaloedd mwy cefnog a menywod mewn ardaloedd tlotach", yn enwedig o ran canser ceg y groth.

Mae amseroedd aros am driniaeth canser gynaecolegol yng Nghymru wedi gwella'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda 51.3% o gleifion bellach yn cael eu trin o fewn 62 diwrnod, o gymharu â 34% yn flaenorol.

Ond mae'r ffigwr diweddaraf ar gyfer pob canser yng Nghymru yn 60.1%, o'i gymharu â tharged o 75%.

Maria Bailey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maria Bailey wedi bod yn codi arian i wneud mwy o fagiau 'Bailey's Bags' er mwyn helpu cleifion eraill sy'n cael eu trin am ganser ceg y groth

Mae Maria Bailey, sy'n 55 oed, o Ben-coed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn credu bod gallu gweld yr un meddyg teulu wedi chwarae rhan wrth ganfod ei chanser hi.

Sylwodd ar fwy o flinder a gwaedu o'r fagina, ond roedd yn meddwl mai gweithio oriau ychwanegol a'r menopos oedd yn gyfrifol.

Pan waethygodd y gwaedu ym mis Chwefror, aeth at ei meddyg teulu, a chafodd archwiliad mewnol a chyfres o brofion.

Daeth y profion o hyd i diwmor 4cm a chanser gradd 2 o amgylch ceg ei chroth.

"Rwy'n teimlo'n lwcus iawn iddi gymryd fi o ddifrif o'r cychwyn," meddai.

Cafodd Ms Bailey driniaeth yn Abertawe a Chaerdydd, ac mae bellach yn codi arian i helpu cleifion eraill sy'n cael triniaeth am ganser ceg y groth.

Mae hi wedi rhoi nifer o fagiau, o'r enw "Bailey's bags", i ddwy ganolfan ganser, gyda phethau y gall cleifion eu defnyddio yn ystod eu triniaeth, gan gynnwys potel ddŵr, melysion â blas cryf i oresgyn y blas metelaidd y gall triniaeth adael, ffan, clustog gwddf, pecyn batri ar gyfer dyfeisiau USB a blwch meddyginiaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i gryfhau gofal sylfaenol fel sylfaen GIG Cymru", a'u bod yn diweddaru eu cynllun iechyd menywod.

Ychwanegon nhw bod strategaeth ganser genedlaethol 10 mlynedd newydd yn canolbwyntio ar "atal, diagnosis a thriniaeth", gyda "phwyslais ar ganfod canser yn gynharach."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig