Dyn wnaeth dagu ei wraig i farwolaeth yn ei gwely yn euog o lofruddiaeth

Bydd Michael Davies yn cael ei ddedfrydu fis nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth dagu ei wraig i farwolaeth yn eu cartref wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth.
Cafodd Michael Davies, 58 o Gefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr, ei gyhuddo o lofruddiaeth Tracey Davies ar ôl iddi gael ei chanfod yn farw yn Ebrill 2025.
Roedd Davies wedi pledio'n euog yn flaenorol i ddynladdiad, ond roedd wedi gwadu llofruddiaeth.
Daeth rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd i'r casgliad fod Davies yn euog o lofruddiaeth.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 2 Hydref.

Cafodd Tracey Davies ei disgrifio fel "chwaer annwyl a ffrind ffyddlon"
Cafodd yr heddlu eu galw i Gefn Cribwr ar noson 18 Ebrill 2025 yn dilyn pryderon am les dau berson.
Fe wnaethon nhw ddod o hyd i gorff Tracey Davies, ac fe gafodd Michael Davies ei arestio yn y fan a'r lle.
Clywodd cwest i'w marwolaeth fod aelodau o deulu Ms Davies, a oedd wedi dechrau poeni amdani, wedi ei chanfod yn ystafell wely ei chartref ar Cefn Road.
Cofnodwyd achos dros dro o'r farwolaeth fel pwysau ar ei gwddf.
Mewn teyrnged fis Ebrill, dywedodd ei theulu ei bod yn "fam ymroddedig" a'i phlant oedd ei "balchder mwyaf".
Cafodd ei disgrifio fel "chwaer annwyl, ffrind ffyddlon, a phresenoldeb disglair a allai oleuo unrhyw ystafell gyda'i chwerthin".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2025

- Cyhoeddwyd9 Mai 2025
