Rheolwr wedi dweud bod 'neb eisiau gweld person beichiog' yn y gwaith - tribiwnlys

Menyw feichiog mewn swyddfaFfynhonnell y llun, PA Media
GanSara Dafydd
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth rheolwr menyw feichiog wahaniaethu yn ei herbyn yn y gweithle pan ddywedodd bod "neb eisiau gweld person beichiog" yn gwneud cyflwyniad i gleientiaid.

Roedd Jessica Morgan o Abertawe yn feichiog pan wnaeth cydweithiwr mewn cwmni panelau pren yn Fforestfach "chwerthin" ar ôl iddi awgrymu y gallai hi arwain cyflwyniad i gleient newydd.

Clywodd tribiwnlys cyflogaeth fod y rheolwr yng nghwmni Panelex Wood, Frederick Geraint Hawkes, wedi gwadu gwneud y sylw am ei beichiogrwydd.

Dywedodd y tribiwnlys bod hawliad Morgan o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn un "dilys", ond cafodd ei wrthod oherwydd yr amser a gymerodd i gyflwyno'r achos.

Cafodd hawliad arall ei gadarnhau ar ôl i'r tribiwnlys ganfod bod Morgan wedi derbyn llythyr "ymosodol a bygythiol" gan Hawkes.

Clywodd y tribiwnlys cyflogaeth mewn gwrandawiad ym mis Mai bod Morgan wedi ymuno â'r cwmni yn Fforestfach, ar gyrion Abertawe, yn 2020, i ymgymryd â rôl â chyflog o £40,000 y flwyddyn.

Cyhoeddodd Morgan ei bod yn feichiog ym mis Gorffennaf 2023, ac mewn dyfarniad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Mehefin eleni, dywedodd y tribiwnlys ei bod wedi teimlo bod agwedd Hawkes tuag ati wedi newid.

Roedd Morgan yn teimlo bod ei beichiogrwydd yn "anghyfleus", ond canfu'r tribiwnlys na allai roi enghreifftiau penodol o pam yr oedd hi'n teimlo hynny.

Dywedodd y tribiwnlys fod Morgan wedi gwneud yr honiad "i raddau helaeth oherwydd ei phryder ei hun".

Clywodd y tribiwnlys fod gan Morgan a Hawkes "berthynas waith a phersonol gref" a mai nhw oedd yr unig ddau aelod o staff yn y swyddfa yn llawn amser, gyda Morgan yn atebol i Hawkes.

Yn ôl y tribiwnlys roedd "anghydbwysedd pŵer rhyngddynt a oedd yn mynd y tu hwnt i'r anghydbwysedd pŵer amlwg rhwng cyflogwr a gweithiwr", ac roedd Morgan "braidd yn ddibynnol ar Mr Hawkes ac yn ceisio ei gymeradwyaeth".

'Does neb eisiau gweld menyw feichiog, Jess'

Honnodd Morgan, tua mis Tachwedd 2023 - cyn ei chyfnod mamolaeth - ei bod wedi cynnig helpu Hawkes i baratoi cyflwyniad ar gyfer cleient, ac iddo ymateb drwy ddweud "does neb eisiau gweld menyw feichiog, Jess".

Gwadodd Hawkes wneud y sylw wrth roi tystiolaeth, gan dynnu sylw at anghysondeb ynghylch pryd y dywedodd Morgan y cafodd ei wneud, ond penderfynodd y tribiwnlys ei fod wedi'i wneud.

Dechreuodd Morgan ei chyfnod mamolaeth yn Ionawr 2024, ac yn ddiweddarach gadawodd y cwmni tua mis Hydref y flwyddyn honno yn dilyn cyfarfod â Hawkes.

Dywedodd y tribiwnlys fod y ddwy ochr wedi cytuno na fyddai hi'n dychwelyd i'r gwaith, er gwaethaf honiad Morgan ei bod wedi teimlo iddi gael ei "hannog" i gytuno.

'Triniaeth anffafriol'

Cafodd honiadau eraill Morgan o ddiswyddo annheg, diswyddo anghyfreithlon a gwahaniaethu ar sail rhyw yn erbyn ei chyflogwr, eu gwrthod.

Daeth y tribiwnlys i'r canlyniad fod sylw Hawkes am feichiogrwydd Morgan gyfystyr â "thriniaeth anffafriol", ac yn awgrymu "bod ymddangosiad menyw feichiog yn rhywbeth a fyddai'n atal cleientiaid, i'r graddau na ddylid ei gweld".

Er bod sail i'r hawliad, roedd yr amser a gymerodd Morgan i'w gyflwyno yn golygu ei fod "ymhell y tu hwnt i'r terfyn amser".

"Mae'r hawliad yn cael ei wrthod gan nad oes gan y tribiwnlys yr awdurdod i'w ystyried," meddai'r tribiwnlys.

Llwyddodd Morgan gyda hawliad o ddioddef erledigaeth, ar ôl i'r tribiwnlys ganfod iddi dderbyn llythyr "ymosodol a bygythiol" lle'r oedd Hawkes yn cefnu ar gytundeb i Morgan gadw car y cwmni tan y Nadolig yn 2024.

Anfonwyd y llythyr ar ôl iddi ofyn am daliad yn lle'r hawl i wyliau yr oedd wedi'i chronni yn ystod ei chyfnod mamolaeth.

Bydd gwrandawiad arall i benderfynu a fydd unrhyw iawndal yn cael ei ddyfarnu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.