Rhybudd am stormydd mellt a tharanau yn yn parhau i'r gogledd

Map y Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd yn effeithio ar holl siroedd y gogledd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar draws gogledd Cymru nos Fercher.

Gallai'r cawodydd trwm a'r stormydd o fellt a tharanau arwain at lifogydd a chael effaith ar drafnidiaeth, dolen allanol, medden nhw.

Daeth y rhybudd mewn grym am 19:00 nos Fercher ac yn wreiddiol roedd yn dod i ben am 10:00 fore Iau, ond yn dilyn diweddariad fe gafodd ei ymestyn hyd 13:00 ddydd Iau.

Y siroedd yng Nghymru sy'n debygol o gael eu heffeithio ydy Conwy, Ddinbych, Y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam - holl siroedd y gogledd.

Mae disgwyl i'r cawodydd ddod â 20mm o law o fewn awr mewn rhai ardaloedd, a chymaint â 50mm yn disgyn dros gyfnod o chwe awr - allai arwain at lifogydd mewn rhai ardaloedd.

Yn ogystal â'r glaw, mae disgwyl taranau hefyd, gyda'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai trafnidiaeth, adeiladau a chyflenwadau pŵer gael eu heffeithio.

Ychwanegon nhw y bydd y cawodydd yn dechrau pylu o'r gogledd-orllewin fore Iau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig