Oedi triniaethau IVF newydd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

IVFFfynhonnell y llun, Reuters
  • Cyhoeddwyd

Mae cleifion sy'n disgwyl dechrau triniaethau ffrwythlondeb newydd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn wynebu oedi o "o leiaf" bedair wythnos.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi rhoi gwybod i gleifion bod triniaethau newydd wedi'u hoedi am y tro oherwydd "bod rhai gweithwyr mewn meysydd lleol yn abesennol".

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am yr oedi ac wedi dweud nad yw cleifion sydd eisoes yng nghanol triniaeth weithredol yn cael eu heffeithio.

Mae un claf, a siaradodd â BBC Cymru yn ddienw, wedi disgrifio cael gwybod am yr oedi "o fewn dyddiau" i'w thriniaeth newydd arfaethedig fel rhywbeth "gofidus iawn".

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro a dweud "nad yw cleifion presennol sydd eisoes yn cael triniaeth wedi'u heffeithio".

'Proses hynod emosiynol'

Cyhoeddwyd yr oedi o bedair wythnos ar wefan y bwrdd iechyd ar 28 Awst, a nodwyd bod y bwrdd wedi ysgrifennu at bob claf i "egluro eu statws".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe "nad oedd unrhyw faterion yn ymwneud â diogelwch", ond "nad oedd y ganolfan yn gallu bodloni'r gofynion rheoleiddio sydd eu hangen i ddechrau triniaethau newydd ar hyn o bryd oherwydd absenoldeb mewn meysydd allweddol o'r gweithlu".

Ychwanegodd nad oedd "unrhyw effaith ar gametau nac embryonau sydd wedi'u storio".

Dywedodd y claf wrth BBC Cymru: "Mae'r broses IVF yn hynod o emosiynol ac yn sensitif o ran amser, ac ni ddylai cleifion fel ni yma yng Nghymru fod wedi cael ein rhoi yn y sefyllfa hon."

Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe eu bod yn "deall pa mor ofidus yw'r oedi dros dro i'r cleifion sydd wedi'u heffeithio, yn enwedig y rhai sydd yn agos iawn at ddechrau eu triniaeth".

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn cydnabod y straen ychwanegol mae'r sefyllfa'n ei achosi ac yn "wirioneddol flin".

Ychwanegodd eu bod yn gwneud "popeth posibl i ailddechrau'r gwasanaeth, gan weithio'n agos gyda Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru".

"Rydym yn obeithiol na fydd y seibiant dros dro yn para y tu hwnt i'r pedair wythnos a amcangyfrifwyd, ac y bydd cleifion yn cael gwybod cyn gynted ag y bydd mwy o newyddion i'w rannu."

Pwysleisiodd nad yw'r seibiant yn effeithio ar gleifion sydd eisoes wedi dechrau eu triniaeth, a bydd eu triniaeth yn parhau fel arfer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig