Cyngherddau yng Nghaerdydd yn cael caniatâd er gwaethaf gwrthwynebiad

Blackweir Live
Disgrifiad o’r llun,

Daeth miloedd o bobl i gyngherddau Blackweir Live yng Nghaerdydd y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yng Nghaerdydd wedi beirniadu penderfyniad cyngor y brifddinas i gymeradwyo cyfres o gyngherddau Blackweir Live ym Mharc Bute am yr ail flwyddyn yn olynol.

Bydd artistiaid gan gynnwys The Cure, Lewis Capaldi, Pitbull a Teddy Swims yn perfformio ar gaeau'r Gored Ddu rhwng 24 Mehefin a 4 Gorffennaf y flwyddyn nesaf.

Dywedodd gwrthwynebwyr y cynlluniau eu bod yn parhau i bryderu am effaith y digwyddiadau ar natur, bywyd gwyllt a mynediad y cyhoedd i'r parc.

Ond mae'r cyngor a chefnogwyr y cynlluniau yn dadlau bod y cyngherddau'n denu miloedd o ymwelwyr, yn hybu economi'r ddinas ac yn cyfrannu at wasanaethau lleol.

Paul Barret
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Barrett yn credu nad caeau'r Gored Ddu yw'r lleoliad cywir ar gyfer y cyngherddau

Cymeradwyodd pwyllgor cynllunio'r cyngor y cais ddydd Iau, gan roi caniatâd i'r digwyddiad ddychwelyd bob haf tan 2031.

Daeth y penderfyniad er gwaethaf ymgais aflwyddiannus gan wrthwynebwyr i gael Llywodraeth Cymru i ymyrryd a chymryd cyfrifoldeb am y cais cynllunio.

Dywedodd cadeirydd Ffrindiau Parc Bute, Paul Barrett, ei fod yn "siomedig iawn" bod y safle'n cael ei ddefnyddio eto ar gyfer cyngherddau.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd fod y grŵp yn cefnogi cynnal cyngherddau yng Nghaerdydd ond yn credu nad caeau'r Gored Ddu yw'r lleoliad cywir.

"Mae'r un pryderon gyda ni nawr ag oedd gyda ni llynedd," meddai.

Dywedodd fod y parc yn cynnwys safleoedd pwysig o ddiddordeb gwyddonol ar gyfer natur a bywyd gwyllt, gan gynnwys ystlumod ac adar, a'i fod yn poeni am effaith digwyddiadau mawr ar yr amgylchedd.

Ychwanegodd fod rhai pobl wedi cwyno am gyfyngiadau ar fynediad i rannau o'r parc yn ystod y digwyddiadau ac am lefel y sŵn.

"Ry' ni fel Ffrindiau Parc Bute yn hoff iawn o gerddoriaeth ond mae'r ŵyl yma yn y lle anghywir.

"Mae parc i fod ar gyfer pobl Caerdydd nid i Gyngor Caerdydd - 'da ni ddim yn NIMBYs (Not in my Back Yard) ond jyst bod e yn y lle wrong," meddai.

Yn ystod cyfarfod y pwyllgor, dywedodd Lyn Eynon o Gymdeithas Ddinesig Caerdydd fod Parc Bute wedi'i roi "er mwynhad y cyhoedd, nid digwyddiadau preifat".

Mynegodd bryder hefyd am effaith bosibl y cyngherddau ar amgylchedd naturiol y parc a'r effaith gronnus o gynnal digwyddiadau tebyg bob haf.

Galwodd ar y cyngor i ystyried lleoliadau eraill ar gyfer y cyngherddau a beirniadodd y ffaith fod tocynnau wedi mynd ar werth cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi.

Cododd rhai aelodau'r pwyllgor bryderon hefyd am sŵn y digwyddiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Jon Shimmin ei fod wedi gallu clywed y cyngherddau o'i gartref ym Mhen-y-lan y llynedd a bod y sŵn wedi effeithio ar ei blant.

Dywedodd y Cynghorydd Ali Ahmed y byddai'r sŵn yn effeithio ar rannau helaeth o Cathays a chanol y ddinas, a galwodd am gymeradwyo'r cynlluniau am flwyddyn yn unig, er na chafodd ei gynnig gefnogaeth gan gynghorwyr eraill.

Ond dywedodd swyddogion cynllunio fod "gwersi wedi'u dysgu" o ddigwyddiadau'r llynedd a bod mesurau ychwanegol wedi'u rhoi ar waith i fynd i'r afael â phryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywedodd cynrychiolydd ar ran y cyngor fod gan Gaerdydd hanes hir o gynnal digwyddiadau cerddorol mawr a bod Blackweir Live yn helpu i hyrwyddo rôl y ddinas fel canolfan ddiwylliannol.

Huw ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Thomas fod y cyngherddau'n dod â budd economaidd i Gaerdydd

Yn gynharach ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod o'r Senedd dros Gaerdydd Penarth, Huw Thomas, ei fod yn credu bod y safle yn "le anturus a chyffrous iawn" ar gyfer cyngherddau.

Mae'r digwyddiadau yn "amlwg yn boblogaidd" ac yn dod ag "incwm i mewn i'r cyngor sy'n cael ei ailfuddsoddi mewn parciau a gwasanaethau diwylliannol", meddai.

Ychwanegodd eu bod hefyd yn dod â budd economaidd i fusnesau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Garry Hunt, a fynychodd gyngerdd Alanis Morissette y llynedd, ei fod yn credu bod y digwyddiad yn "rhagorol" ac bod y "manteision yn gorbwyso'r anfanteision".

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael fod "cyngherddau Blackweir 2025 wedi bod yn llwyddiannus" a bod mesurau lliniaru newydd wedi'u cyflwyno mewn ymateb i bryderon.

Ychwanegodd ei bod yn "anodd dod o hyd i leoliad a fyddai'n plesio pawb" ac mai ei farn ef oedd bod Blackweir yn addas ar gyfer cynnal digwyddiadau o'r fath.

Yn y bleidlais derfynol, pleidleisiodd saith cynghorydd o blaid y cynlluniau, roedd un yn erbyn ac ac fe wnaeth un ymatal.

Bydd Blackweir Live 2026 yn cael ei gynnal rhwng 24 Mehefin a 4 Gorffennaf.