Gêm gyfartal siomedig i Gymru oddi cartref ym Montenegro

- Cyhoeddwyd
Cafodd Cymru gêm gyfartal oddi cartref ym Montenegro nos Wener - yr ergyd fawr gyntaf yn eu hymgyrch addawol hyd yma i gyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2027.
Aeth Cymru ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda Hannah Cain yn rhwydo o'r smotyn yn dilyn trosedd ar Ella Powell yn y cwrt cosbi.
Roedd Cymru'n gyfforddus, ond doedden nhw ddim yn gallu dyblu eu mantais, a gyda 10 munud yn weddill roedd Montenegro yn gyfartal.
Wedi camgymeriad gan Lily Wodham, fe sgoriodd Jasna Đoković o groesiad Medina Dešić, ac fe orffennodd y gêm yn 1-1.
Roedd Cymru wedi cael trafferthion yn cyrraedd Montenegro ar gyfer y gêm, gyda storm yn golygu nad oedd modd iddyn nhw lanio yn Podgorica nos Fercher.
Bu'n rhaid iddyn nhw felly dreulio noson yn Brindisi yn yr Eidal, cyn cyrraedd Montenegro lai na 24 awr cyn y gic gyntaf.
Rheolwr Cymru'n cysgu mewn maes awyr ar ôl methu â glanio ym Montenegro
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae Cymru yn yr ail haen y rowndiau rhagbrofol, sy'n golygu nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn awtomatig.
Yn hytrach, y gobaith yw perfformio'n gryf yn eu grŵp rhagbrofol ac yna sicrhau llwybr i'r bencampwriaeth trwy'r gemau ail gyfle.
Ond roedd y gêm nos Wener yn allweddol yn y ras rhwng Cymru a'r Weriniaeth Tsiec i orffen ar frig y grŵp, ac felly sicrhau llwybr mwy caredig yn y gemau ail gyfle.
Yr unig gysur i Gymru yw'r ffaith bod y Weriniaeth Tsiec hefyd wedi cael gêm gyfartal ddydd Gwener - yn erbyn Albania - sy'n golygu eu bod yn parhau'n gyfartal â Chymru ar 11 pwynt ar frig grŵp B1.
Y gêm olaf fydd yn penderfynu pwy fydd yn gorffen yn gyntaf felly, wrth i Gymru groesawu'r Weriniaeth Tsiec i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Ond bydd angen i Gymru ennill y gêm honno er mwyn gorffen ar y brig, gyda'r Weriniaeth Tsiec â gwahaniaeth goliau gwell.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.