Ymchwiliad heddlu wedi i gorff dyn gael ei dynnu o lyn yn Nyffryn Conwy

Llyn Geirionydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i Lyn Geirionydd nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio wedi i gorff dyn ifanc gael ei dynnu o lyn yn Nyffryn Conwy.

Cafodd y dyn 21 oed ei dynnu o Lyn Geirionydd ger Llanrwst.

Dywedodd llefarydd bod plismyn wedi cael eu galw yno am am 21:17 nos Fawrth wedi adroddiadau am "ddigwyddiad".

Hefyd yn bresennol roedd y gwasanaeth tân ac achub, gwasanaeth awyr yr heddlu, tîm achub mynydd a thîm chwilio tanddwr.

Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod.

Llyn Geirionydd

Mae Llyn Geirionydd, sy'n rhan o Barc Coedwig Gwydir ac yn cael ei reoli'n rhannol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer nofio a chwaraeon dŵr.

Yn ôl CNC, mae'r llyn hyd at 12 metr o ddyfnder ac mae'r dŵr yn gallu bod yn oer iawn, gyda chymhorthion arnofio'n cael eu hargymell i nofwyr.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod signal ffôn symudol yn wael iawn yn yr ardal ac yn annog ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn ymweld.