Gallai busnesau Caerdydd orfod talu am bob lle parcio i'w staff

Maes parcio yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Gallai rhai busnesau yng Nghaerdydd orfod talu cannoedd o bunnau am lefydd parcio i staff os yw cynllun sydd wedi cael ei roi gerbron gan gyngor y brifddinas yn cael ei gymeradwyo.

Byddai'r ardoll yn cael ei thalu yn flynyddol a byddai'n seiliedig ar nifer y lleoedd parcio sydd gan fusnesau ar gyfer gweithwyr.

Yn ôl y cyngor bwriad y cynllun yw annog gweithwyr yn y ddinas i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.

Byddai'r cynllun yn codi tua £10m y flwyddyn a gallai'r arian ariannu prosiectau trafnidiaeth gyhoeddus fel llwybrau bysys a llwybrau beicio.

'Lefelau cyllid trafnidiaeth yn annigonol'

Dim ond busnesau mawr a fyddai'n cael eu heffeithio. Petai'n dod i rym bydden nhw'n talu £750 ar gyfer pob gweithiwr.

Mae cynllun tebyg yn weithredol yn Nottingham ac mae ambell i ddinas arall yn ystyried gwneud yr un fath.

Mewn cyfarfod y cyngor, dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, aelod y cabinet ar drafnidiaeth: "Nid yw ein lefelau cyllid [ar gyfer trafnidiaeth] yn ddigonol."

Dywedodd bod cynllun o'r fath yn "gyfle i ddarparu'r gwasanaethau bysys y mae pobl yn ei haeddu" ac i adeiladu'r math o system drafnidiaeth y mae "pobl ar y cyfandir yn ei chymryd yn ganiataol ac wedi'i chael ers blynyddoedd".

Fe wnaeth arweinydd y grŵp Ceidwadol, y Cynghorydd John Lancaster, gwestiynu os oedd digon o fanylion i gynnal ymgynghoriad priodol.

Cwestiynodd arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, y Cynghorydd Rodney Berman, y diffyg asesiad llawn o effaith y cynllun ar economi'r ddinas.

Yn ymateb i'r ddau, dywedodd y Cynghorydd De'Ath y byddai rhagor o fanylion ac asesiad o'r cynllun yn dod i'r amlwg drwy'r broses ymgynghori â busnesau a rhanddeiliaid.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.