Pryder am ddau gaiaciwr sydd ar goll o Bwllheli ers dydd Mawrth

Simon a Connor Ffynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Simon a Connor eu gweld am y tro diwethaf ger traeth Hafan Y Môr tua 18:30 ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi codi pryder am ddiogelwch dau gaiaciwr sydd ar goll o Bwllheli.

Cafodd Simon a Connor eu gweld ddiwethaf ger traeth Hafan Y Môr tua 18:30 ddydd Mawrth.

Dywedodd yr heddlu mai'r gred yw eu bod wedi mynd i'r traeth gyda chaiacau chwyddadwy (inflatable).

Dywedodd y Prif Arolygydd Ian Roberts: "Mae swyddogion yn cynnal ymholiadau ac yn chwilio yn yr ardal, gyda chymorth cydweithwyr o Wylwyr y Glannau."

Mae'r llu'n apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi cael eu galw am 12:19 ddydd Iau i helpu gyda'r gwaith o chwilio am y ddau, ond bod yr ymgyrch wedi dod i ben am 22:21.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.