Arestio dau ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn yn Sir Gâr

Brynmeurig, CaerfyrddinFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae presenoldeb heddlu yn parhau yn ardal Brynmeurig, Caerfyrddin, lle mae'r llu'n credu y digwyddodd yr ymosodiad honedig

  • Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i ddyn ddioddef anafiadau difrifol yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael gwybod gan staff ysbyty am 01:20 fore Mercher fod dyn wedi mynd yno gydag anafiadau difrifol.

Aeth swyddogion i eiddo yn ardal Brynmeurig, lle maen nhw'n credu y bu ymosodiad ar y dyn yn gynharach.

Mae dyn 35 oed a dynes 30 oed o ardal Caerfyrddin wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Cafodd dynes 49 oed a dyn 40 oed hefyd eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi'r digwyddiad, cyn cael eu rhyddhau heb unrhyw weithredu pellach yn eu herbyn.

Mae'r dyn a gafodd ei anafu bellach wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty ac mae ymchwiliad y llu yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.