Cyhuddo cyn-heddwas o dreisio a thagu dynes tra ar ddyletswydd

Stryd Fawr AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rikki Hall wedi'i gyhuddo o dreisio a thagu dynes yn Abertawe tra roedd ar ddyletswydd

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-heddwas gyda Heddlu'r De wedi cael ei gyhuddo o dreisio a thagu dynes yn Abertawe tra roedd ar ddyletswydd.

Daw'r cyhuddiadau yn dilyn ymchwiliad gan y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu.

Roedd Rikki Hall, 33, yn gwnstabl yn Abertawe tan iddo ymddiswyddo yn ystod yr ymchwiliad.

Mae honiad ei fod wedi treisio a thagu menyw yn y ddinas tra ar ddyletswydd, ym mis Chwefror 2024.

Mae wedi'i gyhuddo o ddau achos o dreisio, dau achos o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ac un achos o dagu nad yw'n angheuol.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o fod â gwn yn ei feddiant, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Bryste ddydd Iau.