Teyrnged i ddyn 'gofalus a hoffus' ar ôl gwrthdrawiad beic cwad

Dywedodd ei deulu bod Bryn Roberts yn ddyn "gofalus a hoffus"
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad beic cwad ger Llandrillo wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Bryn Roberts, 56 oed o ardal Llandrillo, Sir Ddinbych yn y digwyddiad ar y B4401 nos Sul 3 Mai.
Dywedodd ei deulu ei fod yn ddyn "gofalus a hoffus" a oedd yn "boblogaidd iawn yn y gymuned".
Dywedodd yr heddlu fod Bryn Roberts wedi ei gyhoeddi yn farw yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion wrth i ymchwiliadau barhau i'r gwrthdrawiad.

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu eu bod yn drist iawn yn dilyn ei farwolaeth "erchyll o sydyn".
"Roedd Bryn yn gymar, tad, mab a brawd gofalus a hoffus. Roedd yn gymeriad poblogaidd iawn yn y gymuned a byddai wastad yn barod ei gymwynas.
"Roedd yn hynod o weithgar ac yn meddwl y byd o'i deulu a ffrindiau. Hoffwn ddiolch i staff yr Ambiwlans Awyr am eu hymdrechion a'u gwasanaeth.
"Mae colli Bryn yn ergyd enfawr i ni fel teulu a chymuned, bydd yn gadael bwlch enfawr ar ei ôl."
Digwyddodd y gwrthdrawiad, a oedd yn cynnwys un cerbyd sef beic cwad Honda, ychydig ar ôl 19:00 rhwng Llandderfel a Llandrillo.
Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn dal i ofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â lluniau cylch cyfyng, dashcam neu fideo ffôn symudol i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
