Tân mawr mewn safle diwydiannol yn Sir Benfro

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi derbyn galwad am 17:11 nos Lun am dân diwydiannol yn Robeston West
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth tân wedi cael eu galw i dân mawr ar safle diwydiannol yn Sir Benfro ddydd Llun.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod yn delio â thân diwydiannol yn Robeston West, Aberdaugleddau sy'n cynnwys tanciau tanwydd.
Roedd trigolion lleol yn cael eu cynghori i gadw eu drysau a ffenestri ar gau gan fod mwg trwchus yn yr ardal.
Nos Lun fe ddywedodd y Gwasanaeth Tân fod y tân bellach dan reolaeth ond bod swyddogion am barhau ar y safle am sawl awr.
Cafodd y digwyddiad ei ddatgan fel un sylweddol, ond mae hwnnw wedi'i ddiddymu bellach ac mae'r timau'n gwneud cynnydd da wrth ymdrin â'r digwyddiad.
'Diogelwch yn flaenoriaeth'
Mewn datganiad brynhawn Llun, fe wnaeth cwmni Impala Terminals gadarnhau bod digwyddiad wedi digwydd ar eu safle.
"Mae Tîm Argyfwng y Safle a'r gwasanaethau argyfwng yn rheoli ein hymateb i'r argyfwng."
Ychwanegodd y datganiad mai eu prif flaenoriaeth oedd "diogelwch ein pobl, y gymuned gyfagos a'r amgylchedd."
Does neb ar goll yn ôl y gwasanaeth tân.
Mae'r tân yn ymwneud â thanc olew sydd wedi'i ddadgomisiynu ac sy'n cynnwys gweddillion olew crai, ynghyd â thua 60 o silindrau, gan gynnwys cymysgedd o silindrau propan ac ocsigen.
Dywedodd ffynonellau o'r gwasanaeth ambiwlans eu bod yn bresenol, ond nad oedd angen cludo unrhyw gleifion i'r ysbyty.
Tân diwydiannol ger Aberdaugleddau
Dywedodd Claire George, Cynghorydd Sir lleol yn Sir Benfro, wrth BBC Cymru: "Ro'n i allan yn mynd â'r ci am dro pan welais i'r mwg - colofn enfawr o fwg du a chwmwl du hir yn ei dilyn."
Esboniodd ei bod wedi clywed larwm yn canu ddwywaith ac erbyn hyn "wedi gweld lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos y tân a'r mwg".
"Dwi'n bryderus iawn am beth sy'n digwydd," meddai ac yn "gobeithio bod pawb yn ddiogel."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.